Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiwyd rhaglen Gwên am Byth yn 2015, gyda'r nod o wella iechyd y geg ymhlith pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Diben y datganiad hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ynglŷn â'r rhaglen a chyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn dyblu'r cyllid i £0.5m y flwyddyn i sicrhau ei bod yn cael ei chyflwyno'n llawn i bob cartref gofal yng Nghymru yn ystod 2020/21.

Prif nod Gwên am Byth yw gwella hylendid a gofal y geg ymhlith pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal drwy ddatblygu dull cyson ar draws Cymru. Mae iechyd y geg nifer o'r preswylwyr yn wael neu'n annigonol pan maen nhw’n symud i'w cartref gofal, yn aml oherwydd bod eu hiechyd a'u gallu i symud wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd blaenorol, a hefyd oherwydd eu bod yn byw gyda dementia. Mae Gwên am Byth yn cyd-fynd â'n hadroddiad Ymateb Gwasanaethau Deintyddol ac Iechyd y Geg i Gymru Iachach, ac egwyddorion y rhaglen yw y bydd cartrefi gofal yn sicrhau: 

  • bod polisi cyfredol ar waith ar gyfer gofal y geg;
  • bod staff wedi cael hyfforddiant mewn gofal y geg (gan gynnwys mewn sesiynau cynefino) a bod y cartref yn cadw cofrestr hyfforddiant;
  • bod preswylwyr yn cael asesiad gofal y geg ar adegau priodol;
  • bod yr asesiad yn arwain at gynllun gofal unigol, sydd wedi'i gynllunio i sicrhau hylendid y geg;  
  • bod preswylwyr yn cael eu hatgyfeirio at dîm deintyddol os bydd angen.

Mae profiadau yn ystod pedair blynedd gyntaf y rhaglen wedi dangos bod sicrhau gwell iechyd y geg ymhlith poblogaeth ein cartrefi gofal yn gymhleth ac yn heriol. Er bod dros hanner y cartrefi gofal bellach yn cymryd rhan yn y rhaglen Gwên am Byth, a bod cynllun gofal y geg ar waith ar gyfer 5,670 o breswylwyr, bydd y cyllid ychwanegol yn caniatáu ehangu'r rhaglen i gynnwys pob cartref gofal. Os yw capasiti yn caniatáu, bydd egwyddorion y rhaglen yn cael eu datblygu i gynnwys y garfan o bobl hŷn nad ydynt eto wedi symud i gartref gofal. 

Cafwyd adborth cadarnhaol gan staff cartrefi gofal, preswylwyr, gofalwyr a staff y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol sy'n darparu'r rhaglen Gwên am Byth. Yn ogystal â hyn, mae staff cartrefi gofal yn cymryd rhan yn y rhaglen, sy'n arwain at well dealltwriaeth o effeithiau iechyd y geg ar eu preswylwyr. 

Mae Gwên am Byth yn awr yn rhan annatod o raglen Gwella Cartrefi Gofal Cymru sydd hefyd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae'r ddarpariaeth yn cael ei harwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru/1000 o Fywydau. Mae hyn wedi galluogi i Gwella Cartrefi Gofal Cymru fanteisio ar yr hyn a ddysgwyd o brofiadau’r rhaglen, gan ei chryfhau ymhellach fel rhan annatod o waith gwella cartrefi gofal cenedlaethol Cymru. Yn gynharach eleni, rhoddodd y Comisiwn Ansawdd Gofal wybod am gyflwr gwael iawn gofal y geg mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yn Lloegr, ac mai dim ond ychydig o gartrefi sy'n bodloni canllawiau NICE. Croesawyd yr adroddiad gan sefydliadau fel Cymdeithas Prydain ar gyfer Astudio Deintyddiaeth Gymunedol a Chymdeithas Gerontoleg Prydain a thynnwyd sylw at arferion da yng Nghymru dan y rhaglen Gwên am Byth. 

Mae cyllid ar gyfer Gwên am Byth yn cael ei ddyrannu i fyrddau iechyd ac yn cael ei ddiogelu ar gyfer ei ddefnyddio ar gyfer y rhaglen hon yn unig, yn debyg i'r dull o ddyrannu adnoddau ar gyfer rhaglen Cynllun Gwên i wella iechyd y geg i blant. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.