Vaughan Gething AS, Y Gweinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y datblygiadau diweddaraf am deithio rhyngwladol a’r coronafeirws. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.
Yn gynharach brynhawn heddiw, fe wnes i fynychu cyfarfod o Weinidogion o bob un o’r 4 gwlad yn y DU i ystyried y risg i iechyd cyhoeddus yn sgil yr achosion cynyddol o COVID-19 mewn rhannau o Sbaen.
Heddiw cytunodd y Grŵp Gweinidogol i ddileu Sbaen, gan gynnwys ei hynysoedd, o’r rhestr o wledydd sydd wedi cael eu heithrio o’n mesurau iechyd ar y ffin, gyda’r gweithredu’n dod i rym ddydd Sul, 26 Gorffennaf 2020.
Felly rwyf wedi gwneud diwygiad brys i’r Rheoliadau Amddiffyn Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020, sy’n golygu y bydd yn ofynnol i unrhyw un sy’n teithio o Sbaen (neu sydd wedi bod yn Sbaen yn ystod yr 14 diwrnod diwethaf) fod mewn cwarantin am 14 diwrnod o yfory ymlaen.
Mae camau tebyg wedi cael eu rhoi ar waith gan Weinidogion yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020