Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, AC Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers i Lywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd yn 2013, mae ein huchelgais wedi bod yn glir, sef diogelu dyfodol porth trafnidiaeth sydd mor hanfodol i Gymru drwy’r cwmni hyd braich sy’n ei weithredu ar sail fasnachol, i dyfu a datblygu’r seilwaith, gwasanaethau a niferoedd y teithwyr sy’n diogelu ei ddyfodol yn y tymor hir.

Wrth i'r maes awyr barhau i wella a thyfu mae'n bwysig cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaeth hyd yma a’r ffordd y mae wedi gweithio i oresgyn heriau ar hyd y daith.

Mae Maes Awyr Caerdydd yn rhan sylweddol o'n seilwaith economaidd a thrafnidiaeth, sy'n dod â manteision sylweddol i Gymru. Ers i Lywodraeth Cymru ei gaffael yn 2013, mae'r maes awyr wedi profi twf sylweddol, gan sicrhau dros 65% yn fwy o deithwyr, a denu bron i 1.7 miliwn o deithwyr y flwyddyn bellach.

Mae mwy na 30% o'i gwsmeriaid yn ymwelwyr rhyngwladol i Gymru, sy'n dewis Caerdydd fel eu porth i'r Deyrnas Unedig ac yn elwa ar y dewis o gwmnïau a llwybrau hedfan.

Mae'r maes awyr yn cael effaith gadarnhaol, uniongyrchol ar ein heconomi. Yn 2018, roedd ganddo gyfanswm ôl troed gwerth ychwanegol gros o £246 miliwn. Mae hefyd yn cynnal tua 2,400 o swyddi’n ymwneud â hedfanaeth yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn ne Cymru.

Rwy'n hynod ddiolchgar am yr holl ymdrech a gwaith caled a wnaed i osod y maes awyr ar lwyfan mwy cadarn a chynaliadwy ers 2013.  Gellir priodoli'r cynnydd hwnnw yn bennaf i'r arweinyddiaeth a'r tîm gweithredol cadarn sydd gennym ar waith yn y maes awyr.

Drwy gyfres o fentrau synhwyrol, mae gan y maes awyr bellach sylfaen busnes mwy amrywiol i gynllunio ei dwf arno yn y dyfodol. Ar 1 Ebrill 2019 daeth y maes awyr yn gyfrifol am reoli llain awyr Bro Tathan (llain awyr y Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan gynt), sy'n cynnig manteision arwyddocaol o ran effeithlonrwydd a gweithredu.

Mae wedi parhau i sicrhau cynnydd o ran dadgarboneiddio ei fodel busnes, gan adrodd yn 2019 am ostyngiad o 29% yn ei ddefnydd o nwy naturiol a gostyngiad o 7% yn ei ddefnydd o drydan mewn un flwyddyn, ac ar ben hynny, gan leihau allyriadau carbon o fwy na 53% dros wyth mlynedd.

Mae hefyd yn parhau i ddatblygu partneriaethau hirdymor effeithiol a llwyddiannus sydd wedi’i wasanaethu’n dda.  Yn ddiweddar iawn, dathlodd KLM 30 mlynedd o gludo cwsmeriaid rhwng Cymru a'i hyb ym maes awyr Amsterdam Schiphol; dathlodd Balkan Holidays 40 mlynedd o weithredu a dathlodd Vueling garreg filltir yn ei hanes, sef cludo 1 miliwn o deithwyr.

Mae cwmni hedfan 5* seren Qatar Airways yn ei ail flwyddyn o gludo cwsmeriaid i'r Dwyrain Canol a thu hwnt gan hefyd ddenu twristiaeth o fyd busnes, hamdden ac addysg o wledydd gan gynnwys Awstralia, India, Tsieina ac Affrica.

Ddiwedd y llynedd, gwnaeth y maes awyr gyhoeddi ei uwchgynllun drafft sy’n nodi cynllun twf hirdymor clir.  Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i gefnogi cyflawni’r cynllun hwnnw, ynghyd â phartneriaid ar y safle ac ym mis Gorffennaf gwnaeth Global Trek Aviation agor canolfan jet gweithredol newydd ym Maes Awyr Caerdydd. Mae'r Gweithredwr Sail Sefydlog (FBO) sefydledig sy'n arbenigo mewn trin awyrennau o'r radd flaenaf, wedi gosod ei ail leoliad ar lain awyr Maes Awyr Caerdydd, gan gynnig trysorfa o wasanaethau trin awyr arbenigol o'i gyfleuster newydd.

Mae Prifysgol Awyrenegol Embry–Riddle, yn UDA, hefyd yn ymgysylltu â nifer o brifysgolion yn y rhanbarth i archwilio'r potensial o ddarparu hyfforddiant a chymwysterau datblygu arbenigol sy'n gysylltiedig â hedfanaeth, gyda mynediad at y portffolio amrywiol o gynnyrch a gwasanaethau ar y safle ym Maes Awyr Caerdydd.  

Yn ddi-os bydd uchelgais y maes awyr o gynyddu nifer y teithwyr a chynnig mwy o amrywiaeth o ran gwasanaethau a seilwaith o ansawdd uchel yn y maes awyr yn ei helpu i dyfu ymhellach yn y dyfodol.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud hi’n glir bod uchelgais y maes awyr o barhau i dyfu nifer y teithwyr yn cael ei rwystro gan y costau anghymesur y mae meysydd awyr llai ledled y DU yn eu hwynebu. Nid yw beichiau a mesurau diogelwch rheoleiddiol yn cael eu rhannu’n gymesur ac rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amgylchedd mwy cystadleuol ar gyfer meysydd awyr llai ac uchelgeisiol sy’n dymuno tyfu ac ymestyn.

Wrth i'r maes awyr barhau i dyfu a symud tuag at gyrraedd 2 filiwn o deithwyr y flwyddyn, bydd y cynnydd o ran refeniw sy'n cael ei greu gan deithwyr yn dechrau lleihau costau sefydlog sylweddol gweithredu'r maes awyr. Byddwn yn parhau i gefnogi'r maes awyr i gyflawni ei gynlluniau twf uchelgeisiol ac archwilio dulliau cynhyrchiol i'r cwmni maes awyr  ddenu buddsoddiad preifat.

Rwyf wedi cytuno'n ddiweddar i ddarparu cyfleuster benthyciad masnachol estynedig i'r maes awyr o hyd at £21.2 miliwn i helpu i gefnogi ei gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Bydd y maes awyr yn ad-dalu'r benthyciad yn llawn, gyda llog, o dan amserlen ad-dalu a gynlluniwyd.

Bob blwyddyn, mae'r maes awyr yn diweddaru ei gynllun busnes yn ôl galwadau gan deithwyr, newidiadau i'r diwydiant a rhagolygon economaidd. Caiff hwn ei gyflwyno i Holdco i’w gymeradwyo a chraffu arno’n fanwl. Mae'r cynllun busnes yn nodi angen i ddarparu buddsoddiad sylweddol pellach yng nghyfleuster y maes awyr dros y chwe blynedd nesaf, ac felly mae ailariannu’r busnes yn y modd hwn yn weithgarwch cymesur a phriodol. Bydd yr estyniad i'r benthyciad yn cyflawni gweithgarwch sy'n unol â'r cynllun busnes a gymeradwywyd.

Wrth gytuno ar y benthyciad, rydym wedi defnyddio arfer economeg arbenigol gydag arbenigedd penodol yn y sector Hedfanaeth i gynnal dadansoddiad cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynghyd â diwydrwydd dyladwy ariannol manwl i sicrhau bod y benthyciad ar dir cadarn, yn fforddiadwy ac yn parhau i gydymffurfio ag egwyddorion Rheolau Cymorth Gwladwriaethol Egwyddor Gweithredwr Economi'r Farchnad (MEOP) yn enwedig yn sgil Thomas Cook yn mynd i'r wal. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn gwnaeth yr argymhelliad i gymeradwyo'r benthyciad barhau heb ei newid.

Bydd perfformiad ariannol Maes Awyr Caerdydd a'i gyfleuster benthyciad estynedig yn parhau i gael ei fonitro gan Fanc Datblygu Cymru, a fydd yn darparu'r sicrwydd proffesiynol ar gyfer cyfnod y benthyciad.

Credaf y gallwn edrych ymlaen at ddyfodol disglair i Faes Awyr Caerdydd a chefnogi ei uchelgeisiau twf.

Rwyf yn y broses o adnewyddu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, ac rwyf wedi'i gwneud hi'n glir y bydd y maes awyr yn chwarae rôl allweddol o ran cyflenwi rhwydwaith trafnidiaeth integredig, carbon isel, aml-ddull ac o ansawdd uchel i Gymru.  Byddaf yn diweddaru’r aelodau wrth i’r gwaith hwnnw fynd rhagddo.