Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ar ran Llywodraeth Cymru, cyhoeddais ddoe ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd yng Nghymru, yn dilyn cyfarfod â Gweinidogion Amgylchedd y DU a'r Alban yng Nghaerdydd.

Mae'r datganiad yn neges glir gan Lywodraeth Cymru na chaiff y broses o adael yr UE dynnu ein sylw oddi wrth her y newid yn yr hinsawdd, sy'n bygwth ein hiechyd, ein heconomi, ein seilwaith a'n hamgylchedd naturiol.

Mae'r cyhoeddiad yn tanlinellu aruthredd a phwysigrwydd tystiolaeth ddiweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd a'r protestiadau diweddar ynghylch yr hinsawdd ledled y DU. Bydd Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn cynghori Llywodraeth Cymru yr wythnos hon ynghylch ein hopsiynau o ran gosod targedau net ar gyfer dim allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr eraill.

Bydd y cyngor hwn yn dangos inni'r gostyngiadau mwyaf sy'n dechnegol bosib ar draws yr economi ar sail asesiad annibynnol o'r dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael. Yn ein barn ni, ni allwn fforddio derbyn y cyngor hwn fel y gorau y gallwn ei wneud. Dylwn edrych arno fel man cychwyn a rhaid gwneud popeth yn ein gallu i ragori arno.

Rwy'n credu ein bod yn ddigon penderfynol a dyfeisgar yma yng Nghymru i allu cynnal economi carbon isel ar yr un pryd â chreu cymdeithas decach ac iachach.

Rydym yn gobeithio y gall y datganiad gan Lywodraeth Cymru ein helpu i sbarduno ton o weithredu yma ac yn rhyngwladol, gan ein cymunedau, ein busnesau a'n sefydliadau ein hunain a chan seneddau a llywodraethau ledled y byd.

Nid yw mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth y gallwn ei adael i unigolion nac i'r farchnad rydd. Rhaid wrth weithredu ar y cyd, ac mae gan y llywodraeth ran ganolog i'w chwarae yn hynny o beth.

Does yr un wlad yn y byd wedi llwyr sylweddoli'r her ond yn union fel y gwnaeth Cymru chwarae rhan flaenllaw yn y chwyldro diwydiannol cyntaf, rwy'n credu y gall Cymru fod yn esiampl i eraill o'r hyn y gall twf amgylcheddol ei olygu.

Mae deddfwriaeth Cymru ar ddatblygu cynaliadwy a'r amgylchedd eisoes yn esiampl i'r byd a rhaid inni ddefnyddio'r ddeddfwriaeth honno i gyflymu camau'r newid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo y bydd ein sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030 a bydd yn cydweithio ag eraill i helpu rhannau eraill o'r economi i droi oddi wrth danwyddau ffosil.

Fis diwethaf, cyhoeddwyd Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel, a'i 100 o bolisïau a chynigion i gwrdd â thargedau allyriadau carbon 2020. Rydym eisoes yn paratoi'n cynllun nesaf ar gyfer dewis mesurau i gwrdd â thargedau gostwng allyriadau ar gyfer 2021-26 a rhaid iddo fynd ymhellach ac yn gyflymach.

Mae'n hanfodol nad yw'r cynllun nesaf yn rhywbeth i Lywodraeth Cymru yn unig - rhaid iddo fod yn gynllun ar gyfer Cymru gyfan. Yn ogystal â chynnwys mesurau i leihau allyriadau carbon, mae'n cynllun presennol yn rhoi pwyslais mawr ar ddod â chymunedau, gweithwyr, busnesau a llywodraeth ynghyd i ddyfeisio atebion newydd a ffyrdd newydd o weithio, gan ei wneud yn gynllun o weithredu ar gyfer Cymru gyfan.

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn rhoi arian a help ymarferol i brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol. Rydyn ni'n cefnogi sefydlu Canolfan Trawsnewidiadau Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Caerdydd i'n helpu i ddeall yn well sut y gallwn roi mwy o help i sefydliadau ac unigolion i leihau'u hallyriadau carbon. Rydym wrthi'n sefydlu grŵp Datgarboneiddio o dan arweiniad Diwydiant i roi sylw penodol i'r sectorau hynny fydd yn ei chael hi'n anoddach i leihau'u hallyriadau carbon. Rydym yn creu Grŵp Cynghori Cyfiawnder Hinsoddol i ddod â gweithwyr a diwydiant ynghyd i sicrhau'n bod yn amddiffyn buddiannau'r cymunedau lle ceir llawer o bobl sy'n gweithio mewn diwydiannau carbon-ddwys.

Dyma ychydig yn unig o'r camau rydym yn eu cymryd. Mae ein penderfyniad i ddatgan ei bod hi'n argyfwng ar yr hinsawdd yn arwydd o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi'n huchelgais ac i wneud hyd yn oed yn fwy i gael pob rhan o'n heconomi a'n cymdeithas i gydweithredu i arafu'r newid yn yr hinsawdd.

Mae gan bob cymuned, pob busnes a phob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ei ran. Nid dyma'n ffordd arferol o wneud pethau ond mae'r her yn un anarferol. Rhaid inni i gyd chwarae'n rhan i adeiladu Cymru sy'n wirioneddol addas ar gyfer y cenedlaethau'r dyfodol.