Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod ansicr a heriol na welwyd mo’i debyg o’r blaen, gan effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau. Er bod her y pandemig yn parhau, mae'n bwysig ein bod yn dechrau gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Yn benodol, rhaid inni barhau i weithredu’n hirdymor ac ar sail tystiolaeth wrth arwain Cymru allan o'r pandemig. Un o’r elfennau allweddol i lunio dyfodol Cymru yw sut y byddwn yn mesur cynnydd Cymru drwy ein dangosyddion llesiant cenedlaethol, yn llywio trywydd y dyfodol drwy osod cerrig milltir cenedlaethol, ac yn deall beth allai lywio dyfodol Cymru drwy Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol ar gyfer Cymru.

Gwnaethom ymgynghori ar ddatblygu’r Cerrig Milltir Cenedlaethol a rhai newidiadau i'r Dangosyddion Cenedlaethol yn 2019. Ers hynny, yn ogystal ag ymateb i bandemig y coronafeirws, rydym wedi wynebu nifer o heriau eithriadol eraill gyda goblygiadau dwfn i Gymru, gan gynnwys ymateb i'r argyfwng hinsawdd, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb systemig a pharatoi ar gyfer lle newydd Cymru yn y byd ar ôl Brexit. Rydym yn cydnabod bod gan bob un o'r heriau hyn oblygiadau sylfaenol i ddyfodol Cymru ac roedd deall eu heffaith yn hanfodol wrth ddatblygu ein dull gweithredu.

Mae'r pandemig yn arbennig wedi amharu ar ein gallu i gasglu peth o'r data rydym yn dibynnu arnynt i fesur cynnydd tuag at rai o'n dangosyddion ac mae wedi achosi rhywfaint o oedi i'r gwaith arfaethedig ar ddiwygio rhai Dangosyddion a datblygu Cerrig Milltir yn dilyn yr ymgynghoriad.

Er ein bod yn parhau i wynebu heriau parhaus, rydym bellach mewn sefyllfa i ddechrau gweithio ar Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol, ailddechrau’r gwaith pwysig ar ddatblygu Cerrig Milltir Cenedlaethol ar gyfer Cymru a gwneud rhai newidiadau bach i'r Dangosyddion Cenedlaethol. Gyda'i gilydd, byddant yn chwarae rôl gefnogol bwysig o ran darparu cyfeiriad i Gymru yn y dyfodol wrth inni symud tuag at ailadeiladu ac adfer.

Gan ailddatgan ein hymrwymiad, rydym wedi cyhoeddi map ffordd ar gyfer 2021 sy'n nodi amserlen garlam ar gyfer cyflawni’r amcanion, yn sgil yr heriau brys sy'n ein hwynebu a'r cynnydd rydym wedi'i wneud ers yr ymgynghoriad. Yn ogystal â gosod Cerrig Milltir Cenedlaethol a gwneud newidiadau i'r Dangosyddion Cenedlaethol, mae'r cynllun hwn hefyd yn amlinellu datblygiad yr Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol a fydd yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth am y tueddiadau sy'n debygol o lywio dyfodol Cymru, gan gefnogi gwaith cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae gan y gweithgarwch a nodir yn y cynllun hwn oblygiadau i gyrff cyhoeddus a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd cyfle i'r sefydliadau hyn a rhanddeiliaid ehangach gymryd rhan yn y gweithgareddau rydym yn bwriadu eu cynnal eleni. Er y gallai'r pwysau parhaus a wynebwn barhau i effeithio ar yr hyn y gallwn ei gyflawni, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r cynllun hwn, y cam nesaf yn ein hymrwymiad i gyflymu'r broses o ymgorffori dull Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar draws ein gwaith a ledled Cymru.

Er mwyn cefnogi'r gwaith cenedlaethol hwn, rwyf wedi sefydlu fforwm cynghorol rhanddeiliaid traws-sector. Bydd y fforwm yn casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar faterion, cyfleoedd a rhwystrau allweddol o ran gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol; yn rhannu arferion arloesol; ac yn darparu mecanwaith ar gyfer trafodaeth rhwng y Llywodraeth a rhanddeiliaid ar faterion allweddol yn ymwneud â gweithredu’r Ddeddf ymhellach.