Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithio'n galed i ddarparu llety i bawb sydd ei angen - er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw un yn cysgu ar y stryd neu'n ddigartref yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus.
Rydym yn parhau â'n gwaith o daclo ac atal digartrefedd - er mwyn sicrhau bod unrhyw achosion o ddigartrefedd yn fyr, a bod pobl yn cael eu cefnogi'n gyflym i ddod o hyd i gartref addas a sefydlog, fel nad yw eu profiad o ddigartrefedd yn cael ei ailadrodd.
Rydym wedi llwyddo i helpu miloedd o bobl i gael llety dros dro dros gyfnod y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf. Ond bob mis mae llawer mwy o bobl yn parhau i ofyn am gymorth brys am dai gan awdurdodau lleol. Mae'r sefyllfa hon wedi'i gwaethygu gan benderfyniadau llywodraethau olynol y DU i dorri'r cysylltiad rhwng lwfans tai lleol a rhenti preifat yn gyntaf, ac yna rewi cyfraddau lwfansau tai lleol, gan achosi caledi gwirioneddol i denantiaid yn y sector rhentu preifat.
Ein huchelgais yw i bawb gael cartref diogel, addas, parhaol ond mae ein system dai dan bwysau sylweddol, dyna pam, yn ystod tymor y Senedd hon, y byddwn yn adeiladu 20,000 yn fwy o gartrefi cymdeithasol carbon-isel i'w rhentu, gan helpu i leddfu'r pwysau hirdymor ar dai cymdeithasol.
Mae angen opsiynau llety dros dro o ansawdd da arnom i ganiatáu i bobl fwrw ymlaen â'u bywydau - lle i'w alw'n gartref - tra ein bod yn cefnogi unigolion a theuluoedd i ddod o hyd i gartref parhaol.
Rwyf felly yn darparu £65m drwy'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro i gefnogi amrywiol fentrau gan ein hawdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu'r math hwn o lety yn gyflym er mwyn galluogi pobl i symud ymlaen o lety dros dro.
Bydd y rhaglen yn defnyddio mwy na 1,000 o gartrefi ychwanegol unwaith eto dros y 18 mis nesaf. Bydd bron i hanner y cartrefi hynny yn gartrefi hirdymor neu barhaol gyda'r lleill yn cynnig cartrefi o ansawdd da i'w defnyddio gan unigolion a theuluoedd am nifer o flynyddoedd.
Byddwn yn darparu cyllid grant i ystod o gynlluniau i greu capasiti ar gyfer llety yn gyflym trwy ddefnyddio eiddo segur na fyddai fel arall yn cael eu hail-osod unwaith eto, ailfodelu llety presennol, trosi adeiladau yn llety o ansawdd da, a defnyddio llety modiwlar (dulliau adeiladu modern neu MMC) fel math tymor canolig o dai ar rai safleoedd wrth iddynt gael eu datblygu.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybod i'r aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.