Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae heddiw’n ddiwrnod hynod bwysig yn hanes y pandemig COVID-19. Ar ôl i’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd gymeradwyo brechlyn Pfizer BioNTech yr wythnos ddiwethaf, ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU, mae GIG Cymru wedi symud yn gyflym o’r cam cynllunio i’r cam gweithredu, a heddiw bydd y gwaith o frechu pobl yn dechrau.
Mae’r misoedd o gynllunio trylwyr ar gyfer darparu brechiadau ar draws GIG Cymru, gan barhau i reoli’r pwysau digynsail sydd ar wasanaethau ar yr un pryd, wedi dwyn ffrwyth o’r diwedd. Rwy’n teimlo mor falch o’r hyn y mae GIG Cymru wedi ei gyflawni yn ystod y pandemig. Mae ymrwymiad diflino ein staff iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y wlad yn ysbrydoliaeth i bawb, ac rwy’n diolch i bob un ohonynt o waelod calon.
Wrth inni fynd ati i frechu pobl, ac yn unol ag argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, byddwn yn blaenoriaethu’r rheini sy’n 80 oed ac yn hŷn, a staff a phreswylwyr cartrefi gofal, a fydd yn cael eu brechu cyn gynted â phosibl, yn ogystal â’r rheini sy’n weithwyr rheng-flaen yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Wrth gwrs, heddiw, ein gobaith yw ein bod yn cychwyn ar y daith tuag at ddiwedd y pandemig. Fodd bynnag, mae’n hollbwysig cofio bod y daith honno’n un hir, er bod goleuni i’w weld ar ddiwedd y twnnel. Ni fydd effeithiau’r brechlyn yn amlwg am rai misoedd, a bydd y pwysau anferth ar y GIG yn parhau drwy gydol y gaeaf. Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn dal i chwarae ein rhan, gan ddilyn y rheolau er mwyn diogelu ein gilydd.
Heddiw, wrth inni dynnu at ddiwedd blwyddyn hynod heriol, mae lle inni fod yn optimistaidd – ac yn wir fe ddylem fod yn optimistaidd – er bod yn rhaid pwyllo a mesur yn ofalus wrth symud yn ein blaenau, gan fod y daith yn un hir ac anodd. Fel y byddaf yn ei wneud bob amser, byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r rhaglen frechu gamu yn ei blaen.