Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o roi gwybod i’r Aelodau y byddwn ni’n darparu £12 miliwn ychwanegol i gefnogi rhaglen wella genedlaethol newydd ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol tan 2025, ar ben mwy na £11.5 miliwn a fuddsoddwyd eisoes i wella gwasanaethau awtistiaeth dros y tair blynedd nesaf.

Bydd y rhaglen hon yn cefnogi datblygu gwasanaethau niwroddatblygiadol amserol a chyson i bob oed a fydd yn cynnwys gwasanaethau cyngor a chymorth ychwanegol, y mae mawr eu hangen, i gleifion a gofalwyr.

Mae’r buddsoddiad newydd hwn yn dilyn ein hanes cryf o fuddsoddi mewn pobl awtistig a’u cefnogi. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyhoeddi strategaeth awtistiaeth yn 2008, ac yn fwy diweddar daeth ein Cod Ymarfer statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth i rym ym mis Medi 2021.

Ein nod yw adeiladu ar y sylfeini hyn i sicrhau tegwch o ran gwasanaethau a chymorth ar gyfer pobl sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill, megis ADHD a syndrom Tourette.

Mae gwasanaethau niwroddatblygiadol o dan bwysau, a gwaethygodd y sefyllfa o ganlyniad i’r pandemig. Mae mwy o ymwybyddiaeth o awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill wedi arwain at alw cynyddol am asesu a chymorth, sydd yn anffodus wedi arwain at amseroedd aros hirach a bylchau yn y ddarpariaeth, y mae angen mynd i’r afael â hwy ar frys.

I’n helpu i ddeall ble y dylid targedu camau gweithredu, fe wnaethom gomisiynu adolygiad annibynnol trylwyr o alw a chapasiti. Cyhoeddir adroddiad cryno heddiw. Mae’n amlygu lle mae ein diwygiadau presennol wedi bod yn gweithio’n dda, lle mae bylchau, a lle mae angen sylw brys. Bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Mae’r adolygiad yn cadarnhau pryderon hirsefydlog bod angen mynediad cyflymach at gymorth ac asesu. Dylai gwasanaethau fod yn seiliedig ar anghenion yn hytrach na’u harwain gan ddiagnosis – mae hyn yn adleisio adroddiad Dim Drws Anghywir Comisiynydd Plant Cymru 2020 ynghylch iechyd meddwl a lles plant.

Mae’r cydweithio sy’n amlwg yn y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn gweithio’n dda ar draws ffiniau gwasanaethau iechyd ac awdurdodau lleol traddodiadol, gan ddarparu cymorth yn seiliedig ar anghenion ac adlewyrchu’r model cymdeithasol o anabledd. Byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn, gan ddefnyddio dull system gyfan, sy’n rhoi’r unigolyn a’i deuluoedd a’i ofalwyr wrth wraidd ei ofal.

Ond mae gennym dasg sylweddol o’n blaenau i fwrw ymlaen â chasgliadau’r adolygiad wrth inni ddatblygu dull cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.

I wneud cynnydd, byddwn yn datblygu gwaddol y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc a oedd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i greu sylfaen gadarn ar gyfer gwella gwasanaethau ar draws gwasanaethau asesu. Byddwn hefyd yn adeiladu ar waith y Tîm AwtistiaethCenedlaethol, y rhwydwaith o arweinwyr awtistiaeth a’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig. Bydd barn pobl â phrofiad bywyd yn ganolog i bopeth yr ydym am ei gyflawni.

Bydd gan y rhaglen ddiwygio dair prif ffrwd waith. Bydd y ffrwd waith gyntaf yn cymryd camau ar unwaith i ddarparu cymorth ychwanegol i leihau rhywfaint o’r pwysau presennol ar wasanaethau asesu, ac i roi’r cymorth sydd ei angen ar waith yn gyflym i rieni a theuluoedd.

Bydd yr ail ffrwd waith yn cydgynhyrchu a phrofi modelau i ddiwygio gwasanaethau cyflyrau niwroddatblygiadol, fel y byddant yn diwallu anghenion a nodwyd ac yn gynaliadwy yn yr hirdymor. Bydd y drydedd ffrwd waith yn datblygu blaenoriaethau trawsbynciol pwysig gan gynnwys datblygu strategaeth gweithlu, gwella casglu a monitro data, a gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd digidol i gefnogi gwasanaethau yn y dyfodol.

Ers cymryd cyfrifoldeb am y maes hwn y llynedd, rwyf wedi cael y cyfle i gwrdd â theuluoedd a gofalwyr plant a phobl ifanc â chyflyrau niwroddatblygiadol. Rwyf wedi cael fy nharo gan eu cadernid a’u penderfyniad i fynd drwy systemau cymhleth yn aml heb fawr o gymorth.

Rwyf am i’r sefyllfa hon newid; i hwyluso pethau. Mae’n rhaid inni ddiogelu a chefnogi teuluoedd fel y gallant barhau gyda’u rolau gofalu hanfodol a galluogi eu hanwyliaid i fyw bywydau boddhaus.

Byddaf yn monitro darpariaeth y rhaglen yn agos, a bydd yna Grŵp Cynghori’r Gweinidog newydd ar gyflyrau niwroddatblygiadol a fydd yn rhoi cyngor imi ar y cynnydd.

Dros y tair blynedd nesaf byddwn hefyd yn gwerthuso gweithrediad y Cod Ymarfer Awtistiaeth i ddarganfod a ydym yn gwneud y gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yr ydym am ei gyflawni.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynnydd.