Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pan gynhaliwyd dadl yn y Cynulliad ar wasanaethau awtistiaeth fis Gorffennaf hwn, cydnabu'r Aelodau fod gwasanaethau'n gwella ac roeddynt yn dymuno gweld ein diwygiadau yn cael eu gwireddu'n gyflym.

Ym mis Ebrill, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar y meysydd lle rydym yn gwneud cynnydd. Ymrwymais i gyhoeddi'r gwerthusiad annibynnol o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a wnaed argymhellion ynglŷn â'r meysydd y dylid rhoi mwy o sylw iddynt.  Ym mis Mehefin, cyhoeddwyd adroddiad cryno ein hymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth. Cyhoeddodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ei adroddiad blynyddol hefyd yn adlewyrchu enghreifftiau o'r canlyniadau a gyflawnwyd gydag astudiaethau achos yn dangos gwelliannau gwirioneddol ym mywydau llawer o unigolion awtistig.

Rydym yn gwybod o'r adborth a gafwyd gan randdeiliaid fod y galw am wasanaethau awtistiaeth yn cynyddu. Comisiynais estyniad i’r gwerthusiad er mwyn darparu darlun cliriach o'r sefyllfa bresennol, a sicrhau bod gennym yr wybodaeth sydd ei hangen arnom i wneud y penderfyniadau cywir am wasanaethau yn y dyfodol. Mae'r adroddiad gwerthuso a elwir yn Astudiaeth Gwmpasu ar gyfer Alinio a Datblygu Gwasanaethau Awtistiaeth a Niwroddatblygiadol, wedi cael ei gyhoeddi erbyn hyn. Mae'n taflu mwy o oleuni ar gapasiti ein gwasanaethau i allu ymateb i'r cynnydd yn y galw am gymorth.

Rwyf am fod yn glir fod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion a wnaed yn y ddau adolygiad annibynnol o wasanaethau awtistiaeth. Rydym yn gweithredu ar yr argymhellion hyn drwy gynnal adolygiad o gapasiti gwasanaethau niwroddatblygiadol i blant, a'r galw sydd amdanynt, y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r cymorth ehangach ar gyfer awtistiaeth.  Bydd y cam cyntaf yn cael ei orffen erbyn mis Hydref a byddwn yn darparu darlun cywir o'r ffordd y mae gwasanaethau niwroddatblygiadol a'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn gweithredu ac yn rheoli'r galw cynyddol o fewn gwasanaethau.

Yn ystod cam dau'r adolygiad hwn, byddwn yn edrych yn fanylach ar gynllunio gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan ganolbwyntio'n benodol ar y gweithlu. Mae llawer o'r materion yn gyffredin ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, mewn iechyd meddwl a gwasanaethau plant. Yn sgil cynnal trafodaethau â'n partneriaid, gan gynnwys unigolion awtistig a gwasanaethau, mae wedi dod i'r amlwg nad oes unrhyw ateb syml ar gyfer bodloni'r cynnydd yn y galw. Nid yw mor syml â chynyddu'r cyllid ar gyfer recriwtio mwy o staff, oherwydd ceir prinder arbenigwyr sydd wedi'u hyfforddi'n briodol.  Bydd angen gwneud mwy na gorfodi dyletswyddau cyfreithiol a thargedau llymach, oherwydd bydd hyn yn gosod mwy o bwysau eto ar wasanaethau sy'n gwegian i ganolbwyntio ar fodloni targedau ar draul cymorth sydd ei ddirfawr angen. Rydym yn gwybod bod canlyniadau yn cael eu cyflawni yn sgil canolbwyntio ar leihau amseroedd aros. Fodd bynnag, mae yna gost yn gysylltiedig â hyn oherwydd, mewn llawer o feysydd, nid oes gan glinigwyr y capasiti i ddarparu cymorth diagnostig i blant a'u teuluoedd. Mae rhieni sy’n ceisio sicrwydd a chymorth ar ôl i'w plant gael diagnosis a'r staff yn mynegi eu rhwystredigaeth eu hunain ynghylch yr amrediad o gymorth y gallant ei gynnig, sy'n gyfyngedig.

Cyflwyno deddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth yw'r ateb yn ôl rhai. Rydym yn gwybod yn Lloegr fodd bynnag, lle cafodd y Ddeddf Awtistiaeth ei phasio yn 2009, na chyflawnwyd y buddiannau yr ymrwymwyd iddynt. Mae amseroedd aros i oedolion yn Lloegr yn hir iawn ac anghyson yw'r mynediad a geir yno at hyfforddiant (GOV.UK Canlyniadau ymarferion Fframwaith hunanasesu awtistiaeth 2016 a 2018). Rydym yn gwneud cynnydd yng Nghymru na welir mo'i debyg unrhyw le arall, a hynny o safbwynt y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, gwasanaethau cymorth y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol a'r adnoddau rhad ac am ddim a ddatblygwyd ac sydd ar gael erbyn hyn ar ein gwefan benodol i awtistiaeth: Awtistiaeth Cymru.

Rydym am i bob un sydd ag anghenion gofal a chymorth allu manteisio ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, a rhaid inni hefyd gydnabod gwaith caled ac ymroddiad yr holl staff sy'n darparu gwasanaethau awtistiaeth a niwroddatblygiadol, yn wyneb galw sy'n cynyddu.  Mae dyletswydd arnom i gydnabod y gwaith cymhleth, ac anodd yn aml iawn, y maen nhw'n ei wneud bob dydd. Rwy'n gwybod bod llawer ohonynt yn teimlo o dan bwysau cynyddol, felly mae'n bwysig inni gynnig cymorth ac annog pob un sy'n gwneud gwaith pwysig mewn maes sy'n rhoi boddhad iddynt. 

Ein blaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol ac awtistiaeth dros y flwyddyn sydd i ddod yw sicrhau eu bod yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hir. Bydd y buddsoddiad yr ydym yn ei wneud mewn gwasanaethau niwroddatblygiadol i blant yn parhau ac rydym yn monitro'r canlyniadau yn agos. Mae cyllid wedi'i ddarparu ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig hyd at fis Mawrth 2021. Wrth i'r dyddiad hwnnw prysur agosáu, rwy'n gwybod bod y pryder yn cynyddu ynglŷn â darpariaeth y dyfodol. I leddfu rhywfaint ar y pryder hwn, rwy'n rhoi'r £3m honno ariannu ar sail gylchol heb ragfarnu unrhyw newidiadau y gallem geisio eu gwneud i fodel gweithredu'r gwasanaethau hyn wedi i'n hastudiaethau gwerthuso ddirwyn i ben. 

Rydym hefyd yn adeiladu sylfaen gadarn i'n hymrwymiad i wella'n barhaus drwy gyflenwi Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth. Ymhellach i'r ymgynghoriad cyntaf ar ein cynigion a gynhaliwyd gennym yn gynharach eleni, rydym yn parhau i wrando ar unigolion awtistig drwy gyfarfod â hwy yn uniongyrchol mewn digwyddiadau a chyfarfodydd ym mhob cwr o Gymru. Cynhaliwyd ein cylch cyntaf o grwpiau technegol i gynghori ar y cod ym mis Gorffennaf eleni, a byddant yn cyfarfod unwaith eto ym mis Tachwedd. Mae rhagor o ddigwyddiadau i randdeiliaid yn cael eu trefnu gennym yn y Gorllewin a'r Gogledd i'w cynnal yn ystod mis Tachwedd.  Rydym hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol i wrando ar farn grwpiau rhanddeiliaid lleol, ac rwy'n ddiolchgar i'r rheini sy'n rhan o'r gwaith i ddatblygu'r cod.  Rydym yn gwrando ar adborth ac yn cymryd camau. Fel ymateb i geisiadau am ddull clir rydym yn cyhoeddi codau ymarfer cryno, dogfen ganllaw ar wahân i egluro'r hyn sy'n ddisgwyliedig ac rydym yn ymestyn cwmpas yr asesiad effaith rheoleiddiol er mwyn sicrhau bod modd cyflawni'r cod heb effeithio ar unrhyw wasanaethau eraill. Byddaf yn anfon copi cyn-ymgynghori o'r cod drafft i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon ar gyfer eich adborth. Cyhoeddir ymgynghoriad cyhoeddus ar y cod, y canllawiau cysylltiedig â'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ddechrau 2021.