Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi canllawiau statudol i ddiogelu plant rhag camfanteisio rhywiol. Cyfrol 7 yw hon mewn cyfres o ganllawiau o dan faner ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl’ i helpu i weithredu’r darpariaethau diogelu yn Rhan 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Mae’n 10 mlynedd bellach ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r canllawiau statudol cyntaf mewn perthynas â chamfanteisio’n rhywiol ar blant yng Nghymru. Dros y degawd diwethaf, rydym wedi dysgu drwy waith ymchwil ac arfer am y ffyrdd mwyaf effeithiol o atal problem cam-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant, diogelu plant sydd mewn perygl a chefnogi plant a phobl ifanc i ddod dros camdriniaeth. Datblygwyd y canllawiau ar y cyd â grŵp cynghori amlasiantaethol, dan gadeiryddiaeth Dr Sophie Hallett o Brifysgol Caerdydd, a ystyriodd y dystiolaeth hon. Yn bwysig iawn, mae’r canllawiau yn seiliedig hefyd ar dystiolaeth y plant a’r bobl ifanc eu hunain.

Ffurf ar gamdriniaeth rywiol yw camfanteisio’n rhywiol ar blant, ac mae’n achosi niwed sylweddol i blant a phobl ifanc, gan effeithio ar eu lles hyd yn oed ar ôl tyfu’n oedolion. Mae’n hollbwysig bod asiantaethau yn cydweithio i ddiogelu plant a’u cefnogi wrth ddod dros y gamdriniaeth. Mae’r canllawiau hyn, ynghyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, yn darparu cyngor er mwyn hyrwyddo arferion diogelu cyson ar draws asiantaethau ac ar draws Cymru. Gwyddom ei bod yn bryd symud y tu hwnt i reoli risg yn unig tuag at hyrwyddo arferion sy’n rhoi’r lle canolog i’r plentyn, gan ystyried yr hyn sy’n bwysig i blant a phobl ifanc ac sy’n cefnogi eu lles nhw.

Rhaid i hyn ddigwydd ochr yn ochr â chamau i fynd i’r afael â’r rheini sy’n cam-drin ac yn camfanteisio ar blant yn rhywiol, a chyhoeddir y canllawiau hyn ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol Swyddfa Gartref y DU, sy’n arwain gwaith y mae’r heddlu a’r system cyfiawnder troseddol yn ei wneud yn y maes hwn.

Fu yna erioed adeg bwysicach i hyrwyddo gwaith sy’n diogelu plant a phobl ifanc, a bydd gweithredu’r canllawiau hyn yn gyfraniad mawr i leihau effaith pandemig Covid-19. Mae fy ymrwymiad yn glir i sicrhau bod plant yng Nghymru yn teimlo bod pobl yn gwrando arnynt, yn elwa ar arferion sy’n rhoi’r lle canolog i’r plentyn, ac yn gallu arfer eu hawl i fod yn saff.