Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn yr ymrwymiad a wnaed yn y Cytundeb Cydweithio i sefydlu grŵp arbenigol i gefnogi ein huchelgais ar y cyd i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, gan barhau fel gwasanaeth cyhoeddus, mae gwaith wedi’i wneud i sefydlu grŵp arbenigol a chytuno ar ei gylch gorchwyl. 

Bydd aelodau’r Grŵp Arbenigol yn cynnwys unigolion o ystod o gefndiroedd, gan gynnwys y rhai â phrofiad o redeg gwasanaethau gofal cymdeithasol a llywodraeth leol, cyllid ac economeg, academyddion, yn ogystal â’r rhai â phrofiad o ofalu a’r cysylltiadau rhwng gofal cymdeithasol a’r GIG. Yn ei waith, bydd y Grŵp yn ymgorffori ein hymrwymiad i gydraddoldeb, hawliau dynol a darpariaeth gwasanaeth yn y Gymraeg yn seiliedig ar anghenion ein poblogaeth.   

Bydd y Grŵp Arbenigol yn anelu at ddarparu argymhellion erbyn diwedd mis Ebrill 2022, ac yna bydd cynllun gweithredu’n cael ei ddatblygu drwy ymgysylltu’n allanol erbyn diwedd 2023. 

Caiff y datganiad hwn ei ryddhau yn ystod y toriad er mwyn hysbysu’r aelodau. Pe bai’r aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn ailymgynnull byddwn yn hapus i wneud hynny.

Cytundeb Cydweithio – Uchelgais ar y Cyd i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol

Grŵp Arbenigol – Cylch Gorchwyl

Cyd-destun

Mae gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru uchelgais gyffredin i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol sydd am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen. Bydd gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn gyfrifoldeb ar lywodraeth leol a bydd yn parhau fel gwasanaeth cyhoeddus, fel rhan o’n hymrwymiad ar y cyd i sicrhau cydraddoldeb a hawliau dynol, lle bydd llais y defnyddiwr gwasanaeth i’w glywed yn glir.

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn sefydlu Grŵp Arbenigol i ddarparu argymhellion ynghylch y camau ymarferol y gellir eu cymryd tuag at yr uchelgais gyffredin, ar ôl mis Ebrill 2022. Maent yn gwneud hyn gyda’r nod o gytuno ar gynllun gweithredu erbyn diwedd 2023.

Bydd y gwaith a gynlluniwyd i weithredu’r polisi yn parhau, yn unol â’r ymrwymiadau a wnaed drwy’r Gyllideb Ddrafft 2022-2025, gan gynnwys camau i ddarparu ar gyfer system ofal a gwaith mwy integredig, a thuag at gydraddoldeb o ran sicrhau cydnabyddiaeth a gwobr ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd argymhellion y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yn cael eu defnyddio i sicrhau gwelliannau ehangach ar gyfer y gweithlu, gan gynnwys gwelliannau yn y gallu i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Yn dilyn y Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i weithredu fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth, cryfhau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a sefydlu Swyddfa Genedlaethol i sicrhau cynnydd.

Diben y Grŵp Arbenigol

Nod

  • Darparu argymhellion ar gamau ymarferol y gellir eu cymryd, ar ôl mis Ebrill 2022, tuag at greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol lle mae’r gofal am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen. Rhaid i’r camau ymarferol hyn sicrhau bod gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn gyfrifoldeb ar lywodraeth leol, gan sicrhau ei fod yn parhau fel gwasanaeth cyhoeddus, ac ystyried y fframwaith gwariant a sefydlwyd gan y Gyllideb Ddrafft 2022-2025.

Amcanion

  • Cynnal adolygiad cyflym o’r dystiolaeth bresennol ynglŷn â thalu am ofal cymdeithasol/ariannu gofal cymdeithasol a materion cysylltiedig, gan gynnwys yng nghyd-destun datblygiadau ar lefel y DU. 
  • Ystyried y dull gorau a chamau ymarferol tuag at sicrhau bod gofal cymdeithasol am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen drwy greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol gan gynnwys unrhyw oblygiadau ariannol a sut i ariannu’r rhain.
  • Ystyried trefn y camau hyn a gwelliannau pellach i gyflogau a thelerau ac amodau’r gweithlu gofal cymdeithasol er mwyn symud tuag at gydraddoldeb â graddfeydd cyflog y GIG, a sicrhau bod gofal o ansawdd ar gael i bawb sydd ei angen.
  • Ystyried sut i gynyddu canran y ddarpariaeth ofal sy’n cael ei darparu’n gyhoeddus, gan gynnwys rôl perchnogaeth llywodraeth leol a mentrau cydweithredol.
  • Canfod unrhyw newidiadau pellach i systemau, prosesau a dulliau darparu, ynghyd ag unrhyw heriau diwylliannol yn ymwneud â chyngor y Grŵp.
  • Datblygu amserlenni a cherrig milltir allweddol, gan gynnwys ymgysylltu â’r sector gofal cymdeithasol a’r cyhoedd.

Yr hyn sydd i’w gyflawni

Amlinellu ystyriaethau ac argymhellion y Grŵp Arbenigol ynglŷn â’r camau ymarferol nesaf mewn adroddiad i Lywodraeth Cymru ac Aelodau Dynodedig erbyn diwedd mis Ebrill 2022. Bydd hyn yn cyflawni brîff y Grŵp Arbenigol i argymell camau ymarferol tuag at y weledigaeth gyffredin.

Aelodau

Abyd Quinn Aziz

Charles Tallack

Cian Sion

Dilwyn Owen Williams (Cyd-gadeirydd)

Gio Isingrini

Kelly Andrews

Yr Athro Kamila Hawthorne

Kate Young (Cyd-gadeirydd)

Yr Athro Mark Llewellyn

Mary Wimbury

Rhian Davies

Rhian Huws Williams

Dr Vanessa Webb

Amserlen

Bydd y Grŵp yn cwrdd yn hyblyg. Bydd yn trefnu ei amserlen ei hun gyda chyfarfodydd llawn a chyfarfodydd o grwpiau bychain yn ôl yr angen. Bydd adroddiad i Lywodraeth Cymru a’r Aelodau Dynodedig yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ebrill 2022.