Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf ynghylch gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gymraeg a Datblygu Economaidd, yn dilyn ei sefydlu ym mis Rhagfyr 2012.  

O dan arweiniad ei Gadeirydd, Elin Rhys, mae’r grŵp wedi dechrau archwilio’r cysylltiadau rhwng y Gymraeg a Datblygu Economaidd.  

Ceir ymrwymiad yn Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru i archwilio’r holl gysylltiadau rhwng yr economi a’r Gymraeg. Rwyf wedi gofyn i’r Grŵp ystyried y ffordd orau o bennu a datblygu dulliau ymarferol o feithrin perthynas bositif rhwng y Gymraeg a datblygu economaidd.

Golyga cylch gorchwyl ehangach y Grŵp y bydd yn canolbwyntio ar ffactorau sy’n benodol ac yn uniongyrchol berthnasol i dwf economaidd, darparu swyddi, creu cyfoeth a lles y Gymraeg.  

Gall y Grŵp fanteisio ar arbenigedd a phrofiad helaeth ac amrywiol ei aelodau, sy’n deillio o waith yng Nghymru a thramor, sy’n cynnwys busnes, entrepreneuriaeth a pholisi cyhoeddus. Gall y Grŵp hefyd fanteisio ar ei gysylltiadau â grwpiau cynghori eraill gan gynnwys Cyngor Partneriaeth y Gymraeg, yr Adolygiad o Gyllid Sector Preifat i Fusnesau yng Nghymru a Grŵp y Dinas-ranbarthau.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp ym mis Ionawr yng Nghaerdydd a bu’n adolygu canlyniadau gwaith blaenorol, gan gynnwys gwaith gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.  

Cynhaliwyd yr ail gyfarfod yn Abertawe ym mis Chwefror a bu’r Grŵp yn adolygu’r dystiolaeth bresennol ynghyd â bylchau o ran y farchnad lafur a’r Gymraeg. Trafodwyd polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu economaidd yn ogystal, gan gynnwys effaith yr Ardaloedd Menter a Dinas-Ranbarthau a’r cyfleoedd a gynigir o safbwynt y Gymraeg.

Yng nghyfarfod nesaf y Grŵp yr wythnos hon bydd y Grŵp yn ystyried y dystiolaeth sydd wedi’i chasglu hyd yma ac yn sefydlu ffrydiau gwaith ar gyfer ystyried agweddau penodol ar y gwaith. Bydd yr aelodau yn arsylwi ar y ffrydiau gwaith hyn. Bydd hefyd yn ystyried y busnesau amrywiol y bydd yn casglu tystiolaeth ganddynt.  

Yng nghyfarfodydd y dyfodol, bydd y Grŵp yn manteisio ar ei arbenigedd a’i ganfyddiadau ac yn gwahodd rhagor o randdeiliaid i gyflwyno eu sylwadau. Golyga hyn y gall y Grŵp fanteisio ar y sylfaen ehangaf bosibl o dystiolaeth  er mwyn ddatblygu a chyflenwi strategaeth ar gyfer mynd ati ar y cyd i hybu’r Gymraeg a datblygu economaidd.  

Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau gan yr Aelodau ynghylch gwaith y Grŵp a byddaf yn sicrhau eu bod yn cael eu rhannu â’r Grŵp.