Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Medi 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ddatganiad ar y cyd yn nodi cytundeb cyllideb am ddwy flynedd a oedd yn cynnwys ffocws ar gefnogi plant a phobl ifanc ac ymyrryd yn gynnar. Yn benodol, roedd ynddo ymrwymiadau i gefnogi pobl ifanc ym meysydd hyfforddiant, addysg a chyflogaeth, a lleihau’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu.

Un o’r ymrwymiadau oedd neilltuo hyd at £400,000 dros gyfnod o ddwy flynedd er mwyn cynnal astudiaeth ddichonoldeb annibynnol. Nod yr astudiaeth fyddai edrych ar ba gymorth ychwanegol y gallai fod ar rieni ifanc ei angen i’w helpu i ddychwelyd i addysg bellach, pan fo gofal plant yn rhwystr. Defnyddir yr astudiaeth ddichonoldeb i sicrhau eglurder o ran yr angen am y cynllun peilot arfaethedig yn 2016-17, a ffocws y cynllun hwnnw.

Ar 11 Tachwedd, cytunais i roi gwybod i Aelodau’r Cynulliad am y diweddaraf ynghylch hynt y cytundeb. Cyhoeddwyd agor y broses dendro ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb ym mis Tachwedd, gan nodi mai 11 Rhagfyr fyddai’r dyddiad cau. Daeth datganiadau o ddiddordeb i law gan nifer o sefydliadau, ac ar ôl mynd drwy broses asesu, rydym wedi pennu cais a ffefrir.

Byddwn yn cynnal y trafodaethau arferol ar y telerau penodi a  threfniadau contractio dros gyfnod y Nadolig. Os bydd y broses hon yn cael ei chwblhau’n llwyddiannus, fe benodir y sawl sydd wedi cyflwyno’r cais a ffefrir yn ffurfiol yn y Flwyddyn Newydd. Pan fydd hynny’n digwydd, byddaf yn rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad.  

Bydd unrhyw benderfyniad terfynol ar y cynllun peilot arfaethedig yn cael ei wneud yng ngoleuni casgliadau’r astudiaeth ddichonoldeb.  

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.