Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y cynllun Cymru Iachach, gwneir ymrwymiad i ddatblygu Cynllun Clinigol Cenedlaethol. Y bwriad yw nodi sut y dylai gwasanaethau arbenigol a gwasanaethau mewn ysbytai gael eu darparu, a’r sgiliau a’r dechnoleg y bydd eu hangen i’w cefnogi, fel rhan o’r cynnig iechyd a gofal cymdeithasol ehangach. Felly, mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r ddogfen hon heddiw, gan ddisgrifio sut y bydd yn dod yn rhan annatod o’r gwaith o gynllunio’r GIG yn ystod y blynyddoedd nesaf. Hoffwn ddiolch i’r holl glinigwyr hynny sydd wedi cyfrannu at y gwaith o’i datblygu, gan fynegi fy nghefnogaeth ar gyfer ei negeseuon allweddol.

Wrth ddatblygu dogfen sy’n ceisio rhoi sylw i’r heriau digynsail sy’n wynebu gwasanaethau’r GIG, a’r cyfleoedd a ddisgrifir yn yr Adolygiad Seneddol a’n hathroniaeth gofal iechyd darbodus, roedd yn amlwg na fyddai’n bosibl mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleodd hynny oni bai ein bod yn edrych y tu hwnt i ofal arbenigol a gwasanaethau mewn ysbytai. Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae angen inni gynllunio gwasanaethau ar draws ffiniau proffesiynol a sefydliadol. Felly, mae’n briodol ein bod wedi ehangu cwmpas yr ymrwymiad hwn yn y cynllun Cymru Iachach i gynnwys pob gwasanaeth clinigol a chlinigydd.

Hefyd, mae’r Fframwaith yn cael ei gyhoeddi ar adeg heriol iawn i wasanaethau a staff y GIG, wrth iddynt weithio i ymateb i’r pandemig. Serch hynny, mae’n bwysig bod y Fframwaith hwn yn cael ei gyhoeddi nawr gan fod ei ddull gweithredu a’i negeseuon yn ceisio sicrhau budd o’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan roi’r canllawiau y mae eu hangen i helpu’r GIG i barhau i drawsnewid gwasanaethau. Mae gan y Fframwaith oblygiadau pwysig o ran sut y dylai gwasanaethau clinigol ddatblygu, a bydd hyn yn cynorthwyo’r agenda adfer yn uniongyrchol. Bydd yn sicrhau bod adfer yn golygu mwy na dim ond gweithgarwch ychwanegol, er mwyn helpu ein system iechyd i osgoi mynd yn ôl at ddefnyddio modelau darparu nad ydynt yn gynaliadwy.

Mae’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol hwn yn rhan hanfodol o ymdrech lawer ehangach a ddisgrifir yn y cynllun Cymru Iachach. Mae’n ymwneud â sut mae gwasanaethau clinigol yn ein GIG yn rhan o’r darlun ehangach hwnnw, a sut y gallwn ddechrau gwireddu ein huchelgeisiau drwy ddatblygu system ddysgu mewn perthynas â darparu iechyd a gofal cymdeithasol. Y nod yw sbarduno’r chwyldro y mae ei angen o’r tu mewn er mwyn darparu gofal iechyd darbodus sy’n seiliedig ar werth, a chydnabyddir bod yn rhaid gosod mwy o gyfeiriad yn ganolog er mwyn troi’r ymddygiad a’r athroniaeth yn realiti. Mae’r Fframwaith yn disgrifio system iechyd a gyd-gysylltir yn genedlaethol, ac sy’n cael ei darparu’n lleol neu drwy gydweithredu rhanbarthol. Caiff ei ategu gan gyfres o ymrwymiadau newydd, a amlinellir mewn ‘Datganiadau Ansawdd’, ymrwymiad arall a wneir yn y cynllun Cymru Iachach.

Ochr yn ochr â’r fframwaith hwn, cyhoeddir prototeip o ddatganiadau ansawdd ar gyfer canser a chyflyrau’r galon. Maent yn darparu’r lefel nesaf o fanylion ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol, a byddant yn disodli’r cynlluniau cyflawni ar gyfer canser a chyflyrau’r galon. Bydd setiau o ddatganiadau ansawdd yn cael eu datblygu yn y dyfodol i nodi disgwyliadau polisi ar gyfer gwasanaethau clinigol allweddol eraill ac i gynorthwyo’r gwaith o gynllunio gwasanaethau’r GIG, yn unol â’r egwyddorion a’r ymddygiadau a nodir yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol. Mae’r datganiadau ansawdd hyn yn gydnaws â baich afiechyd y boblogaeth, a byddant yn cefnogi’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau yn y meysydd hyn. Yn y pen draw byddant yn gweithio i wella ansawdd gwasanaethau clinigol, a thrwy hynny ganlyniadau’r gwasanaethau perthnasol. Maent yn bodoli ochr yn ochr ag ymrwymiadau polisi trawsbynciol eraill ar gyfer atal afiechydon, mynediad at wasanaethau deiagnostig, a sicrhau darpariaeth dda ar gyfer gofal diwedd oes, ac maent yn cael eu hintegreiddio â’r ymrwymiadau polisi hynny.

Bydd angen gwneud gwaith sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf i wireddu gweledigaeth y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, a’r Datganiadau Ansawdd sy’n ei gefnogi. Bydd hyn yn cael ei gyflawni ar lefel genedlaethol drwy ein fframwaith ar gyfer cynllunio’r GIG, a’n trefniadau atebolrwydd sydd ar waith yng nghyrff y GIG, gyda chymorth ein rhaglenni cenedlaethol a rhwydweithiau clinigol. Hefyd bydd angen i gyrff lleol y GIG ymateb i’r Fframwaith drwy eu gwaith cynllunio gwasanaethau clinigol eu hunain, a’u dulliau gweithredu ar gyfer gwella ansawdd, gan sicrhau eu bod yn arfer eu hymddygiadau darbodus. Bydd rôl swyddogaeth a disgwyliadau gweithrediaeth y GIG, fel y’i nodir mewn llwybrau clinigol a gytunwyd ar lefel genedlaethol, yn ganolog i’r dull gweithredu newydd hwn. Bydd y Fframwaith yn gosod dull gweithredu hanfodol, sy’n golygu y bydd yn rhaid gwneud gwaith gwerthuso sylfaenol o ran sut mae gwasanaethau clinigol y GIG yn cael eu cynllunio a’u darparu, er mwyn sicrhau bod gofal iechyd yn ddarbodus ac yn seiliedig ar werth.

Fframwaith Clinigol Cenedlaethol

Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser

Datganiad Ansawdd ar gyfer Cyflyrau’r Galon