Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer rhoi profion COVID-19 i gleifion ysbytai yng Nghymru. Mae’n adeiladu ar ein strategaeth brofi i Gymru, sydd wedi cael ei diweddaru, a’i chyhoeddi fis Ionawr. Mae’n pwysleisio ein blaenoriaethau profi, gan gynnwys yr angen i gefnogi gofal clinigol y GIG, a diogelu’r GIG, ein gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed.

Mae’r fframwaith yn nodi pum diben i’r profion, sef rhoi diagnosis; atal y feirws COVID-19 rhag mynd i mewn i ysbytai yn ddiarwybod; ei atal rhag lledaenu o fewn ysbytai, lleihau’r risgiau i gohortau o bobl sy’n arbennig o agored i niwed, ond bod angen iddynt gael triniaeth; a sicrhau bod cleifion yn gallu cael eu rhyddhau yn ddiogel i fynd adref neu i ofal cymunedol. Drwy nodi’n brydlon y cleifion hynny sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty, ond sydd wedi eu heintio â COVID-19, bydd yn bosibl gwneud penderfyniadau clinigol i sicrhau eu bod yn cael y gofal mwyaf priodol.

Mae gallu ein hysbytai i gynnal ystod lawn o wasanaethau clinigol diogel yn dibynnu ar y gallu i atal COVID-19 rhag cael ei drosglwyddo o fewn ysbytai. Mae hynny’n gofyn bod cleifion sydd â COVID-19 yn aros ar wahân cyn belled â phosibl, hyd yn oed os ydynt yn asymptomatig. Mae’n debygol mai’r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni’r nod hwn yw drwy gynnal profion rheolaidd a systematig ar gleifion mewn ysbytai. Hefyd dylid sicrhau bod cyn lleied â phosibl o drosglwyddo’n digwydd gan y staff, a hefyd rhwng yr aelodau o staff, drwy weithredu’r trefniadau a gyflwynwyd gennym ym mis Rhagfyr i gynnal profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.

Bydd y fframwaith hwn ar waith mewn ysbytai cymunedol, cyfleusterau iechyd meddwl, ac ysbytai annibynnol, gan gynnwys hosbisau, yn ogystal ag ysbytai’r GIG.

Fframwaith ar gyfer rhoi profion COVID-19 i gleifion ysbytai yng Nghymru

https://llyw.cymru/fframwaith-profi-cleifion-mewn-ysbytai-am-covid-19-mawrth-2021