Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol. Dyma fframwaith sydd â’r nod o arwain at leihau arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl o bob oed.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod arferion cyfyngol yn cael effaith negyddol ar lesiant y bobl sy'n destun yr arferion hyn, yn ogystal â'r rhai sy'n gyfrifol amdanynt ac yn eu gweld. Mae’r Fframwaith yn nodi’n glir mai fel dewis olaf y dylid defnyddio arferion cyfyngol, a hynny er mwyn atal niwed i’r unigolyn neu i eraill.
Gall y term arferion cyfyngol gyfeirio at nifer o weithredoedd gwahanol (er enghraifft, ataliaeth gorfforol, ataliaeth gemegol, ataliaeth fecanyddol, arwahaniad a gwahanu hirdymor).
Diben y canllawiau yw helpu i sicrhau bod y rhai sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion mewn lleoliadau a gwasanaethau perthnasol yn rhannu fframwaith cyffredin o egwyddorion a disgwyliadau a gaiff eu llywio gan ddull o weithredu sy'n mynd ati i hyrwyddo hawliau plant a hawliau dynol.
Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda chomisiynwyr gwasanaethau, darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau i helpu i gyflawni’r disgwyliadau a amlinellwyd yn y Fframwaith a sicrhau a chynnal newidiadau gwirioneddol mewn polisïau ac arferion.
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi ymrwymo i weithio gyda mi i sicrhau bod ein disgwyliadau’n cael eu rhoi ar waith mewn modd a fydd yn cael effaith bositif ar fywydau plant ac oedolion yng Nghymru o ddydd i ddydd.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.