Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein cynlluniau ar gyfer adfer gofal cymdeithasol.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol iawn o'r heriau sy’n parhau i wynebu’r sector gofal cymdeithasol oherwydd y pandemig, a’r angen i helpu’r gwasanaeth i adfer a symud ymlaen fel y mae’r Rhaglen Lywodraethu yn ei nodi. Heddiw rwy’n cyhoeddi fframwaith ar gyfer adferiad gofal cymdeithasol, sy’n nodi ein blaenoriaethau brys a thymor byr ar gyfer adfer. Mae’r fframwaith yn adeiladu ar Gwella Iechyd a Gofal Cymdeithasol (COVID-19: Edrych Tua’r Dyfodol), a gyhoeddwyd fis Mawrth, ac mae’n edrych ar weithredu’r ymrwymiadau gofal cymdeithasol pwysig a gyhoeddwyd yn y Rhaglen Lywodraethu fis diwethaf.
Datblygwyd y fframwaith ar gyfer adferiad mewn cydweithrediad â phartneriaid ar draws y sector gofal cymdeithasol.
Drwyddo, byddwn yn:
- Sicrhau bod ein gwaith craidd o gynllunio’r adferiad yn canolbwyntio ar ailadeiladu llesiant, lleihau anghydraddoldeb, ehangu cyfranogiad a chreu cymdeithas gynhwysol, yn ysbryd y Rhaglen Lywodraethu;
- Cefnogi pobl â COVID Hir, gan gynnwys o ran y galw cynyddol am ddarpariaeth gofal cymdeithasol;
- Parhau i sicrhau bod y risg y bydd COVID-19 yn mynd i gartrefi gofal yn cael ei leihau a bod ymweliadau'n cael eu cynnal yn ddiogel;
- Mynd i'r afael â'r effaith andwyol y mae COVID-19 yn ei chael ar ofalwyr di-dâl;
- Gweithio gyda'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol i wella telerau ac amodau'r gweithlu gofal cymdeithasol a sicrhau y rhoddir pwyslais parhaus ar gefnogi llesiant ac iechyd meddwl;
- Gweithio gyda phartneriaid i lunio dull ariannu at y dyfodol a fydd yn galluogi comisiynwyr i ymateb i anghenion sy’n newid yn y boblogaeth er mwyn sicrhau gofal a chymorth ar gyfer y dyfodol;
- Manteisio ar y cydweithio gwell ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a welwyd yn ystod y pandemig ac adeiladu arno i ysgogi gwelliant;
- Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu ein hymrwymiadau cysylltiedig yn y Rhaglen Lywodraethu er mwyn darparu cymorth arbenigol ychwanegol ac ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant sydd ag anghenion cymhleth; edrych ar wneud diwygiadau radical i wasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal; cael gwared ar elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal; a chryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel ‘rhiant corfforaethol’.
Mae'n hollbwysig ein bod yn defnyddio'r cyfnod adfer hwn i osod y sylfeini cywir ar gyfer dyfodol cryf a chadarnhaol i ofal cymdeithasol yng Nghymru, fel y mae’r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.