Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Gweinidog Addysg, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Rydym yn cyhoeddi’r datganiad hwn ar y cyd i adlewyrchu’r materion trawsadrannol a godwyd gan y Comisiynydd Plant, Comisiynydd y Gymraeg, Aelodau’r Senedd a’r cyhoedd mewn perthynas â threfniadau cludo ers ein datganiad ysgrifenedig blaenorol, Adolygiad o Deithio gan Ddysgwyr Ôl-16 ar 13 Tachwedd 2019.
Er bod y pandemig coronafeirws wedi effeithio ar y cynnydd rydym wedi llwyddo i’w wneud ar yr adolygiad, mae wedi rhoi cyfle inni feddwl am y materion hyn ac ystyried â yw cwmpas presennol yr adolygiad yn ddigonol.
Rydym yn parhau i fod o’r farn bod y ddeddfwriaeth bresennol sy’n rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i gludo dysgwyr o ysgol oedran statudol ar sail pellter, addasrwydd a diogelwch yn gweithio’n dda ar y cyfan. Fodd bynnag, yng ngoleuni’r materion a godwyd yn ystod y misoedd diwethaf, bydd cwmpas gwreiddiol yr adolygiad, a oedd i ystyried teithio gan ddysgwyr ôl-16, bellach yn cynnwys y grŵp oedran 4–16 mlwydd oed. Byddwn ni hefyd yn ehangu cwmpas yr adolygiad i ystyried y trothwy milltiredd presennol (dwy filltir ar gyfer ysgol gynradd, tair milltir ar gyfer ysgol uwchradd).
Bydd yr adolygiad yn gofyn am waith agos rhwng Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, y Comisiynydd Plant ac awdurdodau lleol. Er ein bod yn bwriadu gorffen yr adolygiad erbyn diwedd mis Mawrth 2021, mae’n bosibl y bydd effaith y gwaith o ymdrin â’r problemau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn arwain at oedi.
Rydym yn ymwybodol yr ymrwymwyd i adolygu ac i ymgynghori ar y canllawiau ar gludo dysgwyr eleni, ond bydd y gwaith hwn yn cael ei ohirio nes bod canfyddiadau’r adolygiad estynedig yn glir.
Byddwn ni’n rhoi rhagor o ddiweddariadau wrth i’r adolygiad fynd rhagddo.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.