Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae ychydig dros flwyddyn wedi pasio ers cymeradwyo’r brechlyn cyntaf rhag COVID-19 i’w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig ac ers hynny rydym wedi rhoi mwy na 5.5m o ddosau o’r brechlyn sy’n achub bywydau i bobl yng Nghymru.
Rwy’n eithriadol o ddiolchgar i bawb sy’n rhan o’r rhaglen frechu am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf ac am eu cymorth yn yr wythnosau sydd i ddod.
Yn anffodus, mae coronafeirws yma o hyd ac mae ymddangosiad yr amrywiolyn omicron yn dangos pa mor anrhagweladwy yw’r pandemig o hyd.
Yr wythnos diwethaf, argymhellodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu y dylid ymestyn y cynnig o bigiad atgyfnerthu ar frys i bob oedolyn dros 18 oed a dos atgyfnerthu i oedolion ag imiwnedd isel iawn sydd wedi cael tri dos o’r brechlyn. Dywedodd hefyd y dylai plant a phobl ifanc 12 i 15 oed gael cynnig ail ddos. Rydym wedi derbyn y cyngor hwn ac wedi bod yn gweithio gyda GIG Cymru i gynllunio sut y gallwn gyflymu’r rhaglen frechu.
Byddwn yn cynnig pigiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Ionawr. Bydd hyn yn ymdrech aruthrol arall i’n rhaglen frechu – ac i’n GIG – sydd eisoes wedi gwneud cymaint i ddiogelu pobl ar draws Cymru.
Rydym yn cyflymu’r broses o gyflwyno’r brechlynnau ac yn gwella capasiti ein rhaglen frechu.
Bydd byrddau iechyd yn darparu mwy o ganolfannau brechu mewn lleoliadau hawdd eu cyrraedd, a mwy o glinigau. Bydd oriau agor hirach gyda’r nos ac ar benwythnosau a rhesi ychwanegol yn y canolfannau brechu torfol. Byddwn yn gweithio gyda meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol i gyflenwi’r brechlynnau a chyda llywodraeth leol, y gwasanaethau tân a myfyrwyr i ddarparu cymorth ychwanegol i’r clinigau. Rydym hefyd wedi gofyn am gymorth pellach oddi wrth y lluoedd arfog.
Gall y rheini sy’n dymuno gwirfoddoli i helpu’r rhaglen frechu wneud hynny drwy gofrestru eu diddordeb ar wefan Llywodraeth Cymru. Dylai gweithwyr iechyd proffesiynol fynd i wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Hyd yma, mae mwy na 80% o bobl dros 65 oed wedi cael pigiad atgyfnerthu. O heddiw ymlaen, os ydych chi dros 65 oed a heb gael llythyr yn cynnig apwyntiad ichi, dylech gysylltu â’ch bwrdd iechyd yn uniongyrchol.
Mae ein timau brechu angen cefnogaeth pobl yng Nghymru. I helpu ein GIG, rwy’n annog pawb i wneud pob ymdrech i gadw at eu hapwyntiad.
Os ydych chi o dan 65 oed, byddwch yn amyneddgar ac arhoswch i gael eich gwahodd i ddod am eich pigiad atgyfnerthu, hyd yn oed os oes mwy na chwe mis ers ichi gael eich pigiad diwethaf. Rydym yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a byddwn yn brechu pobl yn nhrefn oedran a risg. Byddwn yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro. Nid oes angen ichi ffonio eich bwrdd iechyd na’ch meddyg teulu i wirio a oes apwyntiad wedi’i wneud i chi.
Mae’n hynod o bwysig bod pobl yn dod i’w hapwyntiadau pan fyddant yn cael eu galw. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i gael eich brechu, yn enwedig os nad ydych wedi cael eich dos cyntaf eto.
Nid ydym eisiau i unrhyw un gael ei adael ar ôl. Mae pob brechlyn yn cyfrif wrth inni weithio gyda’n gilydd i ddiogelu Cymru.