Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip
Mae gennym hanes diwylliannol cyfoethog ac amrywiol yng Nghymru ac mae gennym ddigonedd o dalent o bob math yn y celfyddydau.
Credwn y dylai'r celfyddydau a'n treftadaeth ddiwylliannol ehangach fod ar gael i bawb eu mwynhau a dysgu ohonynt ac rydym wedi ymrwymo i ehangu mynediad. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn seiliedig ar werthoedd unigryw Cymru o ran cymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae'n rhoi cydweithio cyn cystadleuaeth, gan ddangos sut y byddwn yn gweithredu i sicrhau'r tegwch mwyaf posibl i bawb a dileu anghydraddoldeb ar bob lefel o gymdeithas.
Rydym am i'n sectorau celfyddydol a diwylliannol ffynnu – maent yn rhan annatod o'n heconomi a'n bywyd cenedlaethol. Dros y tymor hwn o lywodraeth, rydym yn gweithio i ehangu mynediad i'n treftadaeth a'r celfyddydau i bawb.
Felly, rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gan Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf i nodi sut y gallant ehangu ymgysylltiad â phobl a chymunedau y maent yn methu'n gyson â chymryd rhan yn ein gwaith ar hyn o bryd.
Comisiynodd Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru dri sefydliad – Re:cognition, Richie Turner Associates ac Undeb Gwrth-Hiliol Celfyddydau Cymru – i ymgymryd â thair astudiaeth wahanol sy'n cynnwys, yn y drefn honno, ardal o dlodi lled-wledig; pobl fyddar ac anabl ac amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig.
Roedd yn anochel i’r pandemig effeithio ar y gwaith ond cyhoeddwyd y tri adroddiad fis diwethaf ac maent ar gael ar: Ymchwil Ehangu Ymgysylltiad | Arts Council of Wales
Mae'r adroddiadau hyn yn codi materion heriol, nid yn unig i Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, ond i bob un ohonom yng Nghymru.
Byddwn yn gweithio gyda'r ddau sefydliad i'w cefnogi i roi mesurau ar waith i fynd i'r afael â phryderon a amlygwyd yn yr adroddiadau hyn i helpu i wella mynediad i'r celfyddydau a threftadaeth ledled Cymru.
Byddwn hefyd yn cynnal cyfarfod rhanddeiliaid ym mis Hydref i gael adborth a chadarnhau cynlluniau i gyflawni yn erbyn ein hymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu a'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Gwrth-Hiliol.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai'r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.