Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn ein Rhaglen Lywodraethu, gwnaethom ymrwymo i gyllido gofal plant i ragor o rieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant. Yn dilyn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, cafodd yr ymrwymiad hwn ei ymestyn i gefnogi’r rheini sydd ar gyrion gwaith hefyd, gan ategu ein hymdrechion i gynyddu twf economaidd, mynd i'r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldebau.
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal a ariennir gan y Llywodraeth i blant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r cynllun, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, yn mynd o nerth i nerth, gyda mwy o deuluoedd yn elwa ar y Cynnig bob blwyddyn.
Ar hyn o bryd, er bod modd i bawb fanteisio ar yr elfen addysg gynnar o'r Cynnig, dim ond rhieni sy'n gweithio sy'n gymwys i gael yr elfen gofal plant. Felly mae'n bleser mawr gennyf gyhoeddi y byddwn yn ehangu'r Cynnig o fis Medi eleni i sicrhau bod modd i rieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant elwa ar yr oriau ychwanegol o ofal plant a ariennir y mae'n eu darparu hefyd.
Mae hwn yn gam cyntaf i wireddu’r ymrwymiad a nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu ac yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.
Mae gwerthusiadau o'r Cynnig Gofal Plant wedi dangos ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar allu rhieni i ennill mwy o arian, ac o ran creu rhagor o opsiynau cyflogaeth i rieni. Mae cynnig rhagor o gymorth ar gyfer costau gofal plant i rieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant yn ei gwneud yn amlwg ein bod yn rhoi gwerth ar gefnogi pobl sy’n ceisio gwella eu cyfle i gael swydd drwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid eu llwybr gyrfa.
I ddechrau bydd y gwaith o ehangu'r Cynnig yn canolbwyntio ar gynnwys rhieni sydd wedi cofrestru ar gyrsiau addysg uwch ac addysg bellach. Ar ôl i’r newid hwnnw gael ei weithredu, byddwn yn ystyried cynnwys carfannau ychwanegol o ddysgwyr yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys pobl sy'n ymgymryd â dysgu oedolion, dysgu seiliedig ar waith a dysgu yn y gymuned yn ogystal â phobl sy'n ymgymryd â dysgu tymor byr, gan gynnwys cyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill.
At hynny, gallaf hefyd gyhoeddi y bydd y Cynnig Gofal Plant yn cael ei ehangu o 1 Ebrill ymlaen i sicrhau bod modd i rieni cymwys sy'n cymryd absenoldeb mabwysiadu fanteisio ar y Cynnig ar gyfer y plentyn sy'n cael ei fabwysiadu, ar yr amod bod hynny’n unol â'i Gynllun Cymorth Mabwysiadu.
Mae'r gwaith hwn o ehangu'r Cynnig Gofal Plant yn gam cyntaf tuag at ddiwallu anghenion teuluoedd yng Nghymru yn well, gan ddangos ein hawydd i helpu teuluoedd sy'n gweithio gyda chostau gofal plant.