Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trarfnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n dyrannu dros £16 miliwn mewn grantiau trafnidiaeth i awdurdodau lleol ledled Cymru ar gyfer cynlluniau allai liniaru ac addasu i effeithiau y newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys mynd i’r afael â’r tarfu ar y rhwydwaith ffyrdd oherwydd tywydd difrifol.  Cafodd pob awdurdod lleol eu gwahodd i gyflwyno ceisiadau am gyllid a daeth 21 o geisiadau i law gan 13 o awdurdodau lleol.  

Bydd y Gronfa Ffyrdd Cydnerth o £16.9 miliwn yn cefnogi 18 o gynlluniau ar draws 13 awdurdod lleol.

Rwy’n falch o gyhoeddi bod hyn yn cynwys dros £6 miliwn i adeiladu rhan arall o gynllun amddiffyn yr arfordir Hen Golwyn, fydd yn diogelu y briffordd a’r llwybr teithio llesol rhag tywydd drwg.  Rwy’n buddsoddi £2.5 miliwn i Ganolbarth a De-orllewin Cymru, gan gynnwys £400,000 i ddatblygu ateb cynaliadwy hirdymor yn Sir Benfro i’r A487 yn Niwgwl.  Rwy’n dyrannu dros £4.9 miliwn i wneud gwaith cynnal a chadw a diogelu at y dyfodol ar y prif lwybrau trafnidiaeth ar draws Caerffili a Rhondda Cynon Taf, ble yr effeithiodd y stormydd yn gynharach eleni ar gymunedau lleol yn arbennig.   

Mae’r grantiau yn fuddsoddiad sylweddol i gefnogi twf ac adferiad economaidd cynaliadwy hirdymor o ganlyniad i effeithiau’r stormydd, gwella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, a gwella llwybrau fydd yn annog mwy o bobl yng Nghymru i gerdded a beicio. 

Bydd rhestr o gynlluniau llwyddiannus gan yr awdurdodau lleol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru