Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 10 diwrnod a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn cael eu hadolygu’n gyson, ac ar 18 Ionawr cafodd y coridorau teithio eu hatal. Nid yw’r trefniadau presennol ar gyfer teithio o fewn yr Ardal Deithio Gyffredin (y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel) wedi newid felly caniateir teithio o fewn yr ardal hon heb orfod ynysu.

O 15 Chwefror cyflwynodd Llywodraeth y DU drefn gwarantin wedi’i rheoli ar gyfer pobl sy’n dychwelyd i Loegr o wledydd ar y rhestr goch. Dynodwyd 5 porth mynediad yn Lloegr ar gyfer pobl sy’n cyrraedd o’r gwledydd hyn a gofynnir iddynt gwblhau cyfnod cwarantin wedi’i reoli mewn gwesty. Mae nifer cyfyngedig o eithriadau ar gyfer categorïau fel diplomyddion, personél y lluoedd arfog a chludwyr.

O 15 Chwefror cyflwynodd Llywodraeth Cymru waharddiad ar deithwyr sy’n cyrraedd Cymru ar ôl bod mewn gwlad ar y rhestr goch yn y 10 diwrnod blaenorol. Mae’n rhaid i’r teithwyr hyn ddod i’r wlad drwy un o’r pyrth mynediad yn Lloegr (neu’r Alban) a chwblhau cyfnod cwarantin wedi’i reoli yno am 10 diwrnod cyn teithio ymlaen i Gymru. Golyga hyn na chaniateir mynediad i’r bobl hyn i Gymru (ar wahân i rai eithriadau cyfyngedig) a byddai gwneud hynny yn groes i’r ddarpariaeth hon yn drosedd gyda Hysbysiad Cosb Benodedig o £10,000.

Mae asesiad risg diweddaraf y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ar 10 Mawrth yn dangos bod y risg o fewnforio Amrywiolynnau sy’n Peri Pryder wedi lleihau ar gyfer Portiwgal a Mauritius ac felly bydd y rhain yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr goch. Golyga hyn y bydd yn bosibl hedfan yn uniongyrchol i’r gwledydd hyn, ac oddi yno, unwaith eto ac y bydd y bobl sy’n cyrraedd o’r gwledydd hyn yn cael hunanynysu gartref am 10 diwrnod.

Fodd bynnag, mae’r asesiadau risg ar gyfer Ethiopia, Oman, Qatar a Somalia yn dangos bod y risgiau wedi cynyddu ac y dylid ychwanegu’r gwledydd hyn at y rhestr goch. Golyga hyn na fydd yn bosibl hedfan yn uniongyrchol i’r gwledydd hyn, nac oddi yno, ac ni fydd teithwyr yn cael cyrraedd Cymru. Yn hytrach bydd teithwyr yn gorfod cael mynediad drwy borth mynediad dynodedig yn Lloegr neu’r Alban ac aros mewn lleoliad cwarantin wedi’i reoli yno am 10 diwrnod cyn teithio ymlaen i Gymru.

Mae eisoes nifer fach iawn o eithriadau lle caniateir mynediad i Gymru o wlad rhestr goch, sy’n cynnwys diplomyddion, personél y lluoedd arfog, a sicrhau parhad busnes hanfodol y llywodraeth. Bydd yr eithriadau presennol i’r gwaharddiad ar deithio i Gymru o wlad rhestr goch yn parhau a bydd eithriadau yn cael eu cyflwyno ar gyfer criwiau awyr a môr.  Bydd rhaid i’r unigolion hyn hunanynysu gartref am 10 diwrnod.

Er bod gwaharddiad ar gyrraedd Cymru o wlad ‘rhestr goch’, mae Llu’r Ffiniau wedi rhoi gwybod i swyddogion eu bod yn ymwybodol o rai enghreifftiau o bobl yn cyrraedd o wlad ‘rhestr goch’ drwy Iwerddon i borthladdoedd Cymru. Bydd y diwygiadau hyn yn rhoi pwerau i swyddogion mewnfudo a’r heddlu i;

  • ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu pasbort neu dogfennau teithio;
  • cadw person am hyd at dair awr;
  • ei gwneud yn ofynnol i berson deithio i gyfeiriad yng Nghymru
  • (neu i eiddo a sicrhawyd gan Weinidogion Cymru);
  • ei gwneud yn ofynnol i berson ynysu yn y cyfeiriad hwnnw;
  • chwilio’r person, eu bagiau, neu eu cerbyd;
  • ymafael a chadw dogfennau neu eitemau a gafwyd wrth chwilio.

Oherwydd y bydd nifer cyfyngedig o bobl yn hunanynysu gartref ar ôl cyrraedd Cymru o wlad rhestr goch, gwneir diwygiadau i ganiatáu nifer cyfyngedig o resymau dros adael y man ynysu.

Bydd y rheoliadau yn dod i rym am 04:00 ddydd Sadwrn 22 Mawrth 2021.