Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog
Yr wythnos hon croesawyd dechrau’r rhaglen frechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru. Mae mwy na 2,500 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn yn ystod dyddiau cyntaf y rhaglen a bydd llawer mwy yn dilyn yn y dyddiau a'r wythnosau i ddod. Gobeithiwn y bydd ail frechlyn yn cael ei gymeradwyo'n fuan i'w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig, gan gynyddu’r dewisiadau sydd ar gael inni i ddiogelu pobl rhag y feirws ofnadwy hwn.
Bydd y broses o gynnig brechiadau i bawb yng Nghymru yn cymryd amser ac ni fydd manteision y datblygiad gwirioneddol hwn o ran y pandemig i’w gweld am beth amser eto.
Yn y cyfamser, rhaid inni barhau â'n hymdrechion i reoli lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru. Yn anffodus, rydym yn parhau i weld twf cyflym yn nifer yr achosion ym mhob rhan o Gymru, ac mae hynny’n dadwneud yr enillion yr ymdrechwyd mor galed i’w cyflawni yn ystod y cyfnod atal byr.
Rydym wedi diweddaru ein cynllun rheoli COVID-19 gan gyflwyno set newydd o bedair lefel rhybudd. Mae'r cynllun, a fydd yn cael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf, yn nodi'n fanwl sut y caiff y mesurau cenedlaethol hyn eu cyflwyno mewn ffordd unffurf a rhagweladwy yn dibynnu ar gyfraddau'r feirws a lefel y risg. Bydd yn helpu pawb i ddeall sut a phryd y bydd y wlad yn symud drwy'r gwahanol lefelau, ac yn galluogi pobl a busnesau i gynllunio gyda mwy o sicrwydd wrth inni ddechrau ar flwyddyn newydd.
Mae'r cynllun yn diweddaru Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a'n Heconomi, a gyhoeddwyd fis Mai.
Mae'r cynllun diwygiedig wedi'i lywio gan dystiolaeth a dadansoddiadau diweddaraf ein harbenigwyr meddygol a gwyddonol a chan Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE). Rydym hefyd wedi ystyried profiad yr Alban a Lloegr, sydd wedi cyflwyno system o haenau.
Mae’r cynllun yn nodi pedair lefel rhybudd – o lefel 1 risg isel i lefel 4:
- Lefel rhybudd 1/risg isel - dyma’r agosaf at normalrwydd yr ydym yn debygol o’i gael tan yr haf a hyd nes y bydd brechlynnau wedi’u darparu yn ehangach.
- Lefel rhybudd 2/risg ganolig - mesurau rheoli ychwanegol wedi’u targedu i gadw’r cyfraddau heintio ar lefelau isel. Gall y rhain gael eu hategu gan gyfyngiadau lleol wedi’u targedu’n fwy i reoli achosion neu frigiadau penodol.
- Lefel rhybudd 3/risg uchel - dyma’r cyfyngiadau llymaf heblaw am gyfnod atal byr neu gyfnod clo.
- Lefel rhybudd 4/risg uchel iawn - mae cyfyngiadau ar y lefel hon yn cyfateb i gyfnod clo ac yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa.
Rydym ar lefel rhybudd 3 ar hyn o bryd. Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn ddifrifol iawn; mae cyfraddau’r coronafeirws yn uchel iawn ac mae'r GIG dan bwysau parhaus. Yr wythnos diwethaf, cryfhawyd y mesurau cenedlaethol i ymateb i'r sefyllfa hon – rhaid inni roi cyfle i'r rhain weithio.
Rydym wedi cytuno ar gyfres o drefniadau cyffredin ledled y DU i ganiatáu i deuluoedd ddod at ei gilydd dros gyfnod y Nadolig. Rhaid inni fod yn barod am gynnydd mewn achosion o’r coronafeirws dros y cyfnod hwn o ymlacio wrth i bobl symud o gwmpas y DU a dod at ei gilydd i ddathlu tymor yr ŵyl.
Os bydd y cyfraddau'n parhau i godi a’r pwysau ar y GIG yn parhau fel y mae, bydd rhaid inni ystyried symud i'r lefel rhybudd nesaf – lefel 4 – yn syth ar ôl cyfnod y Nadolig.
Nid yw hyn yn anochel. Gallwn i gyd gymryd camau i reoli lledaeniad y coronafeirws drwy leihau nifer y bobl rydym yn dod i gysylltiad â nhw ac yn cymysgu â nhw. Mae'r feirws hwn yn ffynnu ar ein hymddygiad arferol fel pobl – pryd bynnag a ble bynnag y byddwn yn dod at ein gilydd ac yn treulio amser gyda ffrindiau a phobl eraill, gallwn drosglwyddo neu ddal y feirws.
Gall gweithredu nawr i leihau nifer y bobl rydyn ni'n eu gweld ac yn cymysgu â nhw helpu i benderfynu beth fydd yn digwydd ar ôl y Nadolig.
Byddwn yn gosod rheoliadau yr wythnos nesaf, sy'n darparu ar gyfer y lefelau rhybuddio newydd hyn, a byddwn gofyn am i’r Rheolau Sefydlog gael eu hatal yn y Senedd ddydd Mawrth er mwyn cynnal dadl am egwyddorion y lefelau rhybudd newydd. Bydd pleidlais ar y rheoliadau yn dilyn yn ddiweddarach.
Byddaf yn dosbarthu'r cynllun rheoli COVID-19 wedi'i ddiweddaru cyn gynted ag y bydd ar gael.