Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Wrth imi ddechrau ar fy ngwaith yn y portffolio hanfodol hwn, hoffwn ddweud pa mor anhygoel o falch yr ydw i, a pha mor ddiolchgar hefyd i’r miloedd o bobl sydd wedi gweithio mor galed ym mhob cwr o’r wlad i wneud ein rhaglen frechu yn llwyddiant. Hoffwn ddiolch i Vaughan Gething, fy rhagflaenydd yn y rôl, am ei waith hynod galed gydol y pandemig. Mae brechu yn gwneud gwir wahaniaeth i hynt y pandemig hwn.
Mae mwy na dwy filiwn o bobl yng Nghymru wedi cytuno i gael eu brechu rhag COVID-19 ac wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn sy’n achub bywydau. Yn ôl data a gyhoeddir heddiw, mae ein timau brechu yn awr wedi cyrraedd carreg filltir ac wedi rhoi 2,046,011 o ddosau cyntaf a 939,072 o ail ddosau.
Mae diogelu ein poblogaeth agored i niwed bob amser wedi bod wrth galon ein hymateb ac mae ein cyflymder o ran cyflwyno’r brechlynnau a’r nifer uchel sydd wedi eu derbyn yn golygu ein bod yn gwneud cynnydd da tuag at y nod pwysig hwnnw. Mae dros 95% o bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal pobl hŷn, a phobl dros 70 oed, wedi cael eu dos cyntaf. Mae’n fwy addawol eto fod dros 91% o bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal pobl hŷn, a phobl dros 70 oed, wedi cael eu hail ddos i gwblhau’r cwrs a’u diogelu rhag COVID-19.
Mae 80% o’r holl oedolion yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn a 36% o’r holl oedolion yng Nghymru wedi cael eu hail ddos i gwblhau’r cwrs. Fodd bynnag, mae ymddangosiad yr amrywiolyn sy’n peri pryder (VOC-21APR-02), sy’n cael ei alw yn amrywiolyn India, yn ein hatgoffa nad yw COVID-19 wedi diflannu eto, ac na fydd yn gwneud hynny cyhyd ag y bo teithio rhyngwladol ac amrywiolynnau cartref o drosglwyddiadau uwch yn digwydd. Mae nifer yr achosion o’r amrywiolyn hwn yn isel yng Nghymru, ac mae nifer y bobl sydd eisoes wedi cael eu brechu yma yn uchel, gan gynnwys, ymhlith ein grwpiau sy’n agored i niwed, nifer y rheini sydd wedi cael yr ail ddos. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fonitro’r amrywiolyn hwn yn ofalus yng Nghymru ac, yn unol â chyngor diweddaraf y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym yn gweithio gyda’n timau rheoli achosion lleol a’n byrddau iechyd i hwyluso’r dasg, yn amodol ar gyflenwadau, o ddarparu ail ddos o’r brechlyn i bobl yn gynharach lle y bydd hynny yn golygu y bydd llai yn cael eu heintio, yn cael salwch difrifol ac yn treulio cyfnodau yn yr ysbyty. Mae ein timau Profi Olrhain Diogelu yn parhau i sicrhau ein bod yn olrhain a monitro unigolion sydd wedi dod i gysylltiad ag achosion o’r amrywiolyn ac rydym hefyd yn datblygu cynlluniau lleol ymhellach ar gyfer y posibilrwydd y bydd angen cyflwyno profion wedi’u targedu neu brofion ymchwydd.
Drwy dderbyn y cynnig i gael eich brechu pan ddaw eich tro chi, gan gynnwys yr ail ddos, rydych yn helpu i ddiogelu Cymru. I’r rheini nad ydynt wedi derbyn y cynnig i gael eu brechu, nid yw hi fyth yn rhy hwyr ac rwy’n eich annog i drefnu apwyntiad drwy eich bwrdd iechyd lleol.
Ddydd Llun, ymwelais â chanolfan brechu torfol y Bae ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro. Cefais fy ysbrydoli unwaith yn rhagor gan staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Iechyd a oedd yno yn tawelu meddyliau pobl ac yn gwneud ein rhaglen frechu rhag COVID-19 yn bosibl. Drwy barhau i weithio gyda’n gilydd, rydym yn hyderus y gwnawn ni wireddu’r nod o gynnig brechiad i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Gorffennaf.