Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Yng ngoleuni'r datganiad dydd Mawrth gan Awdurdod Porthladd Caergybi, cyhoeddwyd Cyd-hysbysiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon.
Ar ôl derbyn cadarnhad gan Stena na fydd Porthladd Caergybi yn ailagor tan 15 Ionawr ar y cynharaf yn dilyn y difrod a wnaed yn ystod Storm Darragh, mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn bwrw ymlaen ar frys gyda cynlluniau wrth gefn i leihau'r effaith ar unigolion a busnesau.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans a minnau, yn cydweithredu'n agos â Llywodraeth Iwerddon a phartneriaid eraill i sicrhau y gellir cludo nwyddau a phobl ar draws Môr Iwerddon mewn modd mor effeithlon â phosibl.
Yn gyntaf oll, rydym yn gweithio i geisio datrys cyfyngiadau capasiti mewn porthladdoedd amgen ar gyfer cludo nwyddau a theithwyr. Mae Gweinidogion y Cabinet, ynghyd â swyddogion, mewn trafodaethau parhaus gyda'r gweithredwyr fferi a phorthladdoedd masnachol ynghylch y camau y maent yn eu cymryd i liniaru'r sefyllfa cyn gynted â phosibl i ateb y galw.
Yn ystod cyfarfodydd diweddar gyda Stena a fferïau Gwyddelig ochr yn ochr â gweithredwyr y porthladdoedd, fe wnaethant fy hysbysu bod capasiti cludo nwyddau wedi cynyddu'n sylweddol ar draws porthladdoedd amgen o ganlyniad i gamau a gymerwyd hyd yma, a disgwylir iddo fodloni'r galw. Er bod y newyddion hyn yn galonogol, mae'n parhau'n hanfodol bod gweithredwyr porthladdoedd y sector preifat a Llywodraeth y DU, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraethau Cymru ac Iwerddon, yn parhau i adael unrhyw garreg heb ei throi wrth nodi atebion amgen ar frys i fusnesau ac unigolion.
Gwneir pob ymdrech i leihau effeithiau traffig y trefniadau brys ond angenrheidiol hyn. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor sy'n cynnwys Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol perthnasol i sicrhau yr ymdrinnir â'r cynnydd presennol mewn cludo nwyddau a'r cynnydd disgwyliedig mewn teithwyr troed yn ystod y dyddiau nesaf mor effeithiol â phosibl. Yn y cyfamser, rwy'n ddiolchgar i'r cymunedau hynny yr effeithir arnynt am eu hamynedd ac am ddeall ein sefyllfa.
Rwyf am roi sicrwydd i’r unigolion a'r busnesau yr effeithir arnynt ein bod yn deall yr anawsterau a achosir gan y materion yng Nghaergybi ac ochr yn ochr â'n partneriaid rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu bod yn gallu teithio i Iwerddon, yn enwedig wrth i gyfnod y Nadolig nesáu.
Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd ichi wrth i'r mater hwn fynd yn ei flaen.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod gan yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.