Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n ysgrifennu at aelodau i diweddaru ar ddatblygiad o ran ddyfodol gwasanaeth rheilffordd Cymru a'r Gororau, ac yn benodol, y model cyflenwi bydd Trafnidiaeth Cymru yn ei weithredu yn y dyfodol  a fydd yn caniatáu inni addasu ein cynlluniau mewn oes wedi’r-Covid. 

Yn gyntaf, er gwaethaf yr heriau enfawr a gyflwynwyd gan Covid-19, a'r heriau penodol a gyflwynir i weithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, fel llywodraeth, rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol o trafnidiaeth gyhoeddus sydd yn integredig, o ansawdd uchel, carbon isel, ledled Cymru. Ers cychwyn yr argyfwng hwn, rydym wedi darparu cefnogaeth ddiysgog i'r sector i sicrhau ei fod yn gallu darparu gwasanaethau critigol yn ystod pandemig y coronafirws, ac i baratoi ar gyfer misoedd anodd y gaeaf sydd i ddod. Er bod nifer y teithwyr ar y rheilffyrdd wedi gostwng i gyn lleied â 5% o'r niferoedd cyn-Covid yn ystod anterth y pandemig, mae ein cefnogaeth wedi golygu bod pobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi gallu parhau i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.

Wrth i ni symud at leddfu cyfyngiadau, rydym wedi gweld cynnydd graddol yn nifer y teithwyr, ond yn amlwg mae hyn yn awr yn cael eu heffeithio gan adfywiad y feirws ac rydym yn ymateb yn unol â hynny. Fodd bynnag, mae'n dal yn bwysig ein bod yn cynllunio ar gyfer y galw ar wasanaethau rheilffyrdd wedi’r-pandemig. 

Y gwir amdani fodd bynnag, yw bod rhai heriau economaidd amlwg yn bodoli yn y sectorau rheilffyrdd a bysiau, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n holl bartneriaid, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru, Keolis ac Amey, i sicrhau ein bod yn darparu platfform sy’n gadarn a phosib i adeiladu yn ôl o'r argyfwng hwn, wrth barhau i gyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Mae cyflawni ymrwymiadau allweddol, megis creu'r Metro, darparu cerbydau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, a gwelliannau eraill yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid. Mae hyn er gwaethaf yr heriau yr ydym yn eu hwynebu oherwydd pandemig y coronafirws. Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda holl bartneriaid a'u cadwyn gyflenwi i sicrhau eu bod yn darparu ein cynlluniau a'n gwasanaethau gyda diogelwch yn brif flaenoriaeth.

Mae platfform sefydlog ar gyfer adeiladu'n ôl yn well yn dibynnu ar y model cyflenwi cywir sy'n addas ar gyfer amgylchedd wedi’r pandemig, ac rwy'n falch o hysbysu aelodau bod Trafnidiaeth Cymru wedi cytuno ar egwyddorion model newydd o dan berchnogaeth gyhoeddus, a esblygwyd o'r cytundeb grant blaenorol, a fydd yn caniatáu iddynt barhau i roi cwsmeriaid a chymunedau wrth galon popeth a wnânt, gyda diogelwch fel eu blaenoriaeth gyntaf. Rwyf wedi cymeradwyo sylfaen ar gyfer perthynas newydd rhwng Trafnidiaeth Cymru, Keolis ac Amey a fydd yn cynnwys tair cydran allweddol:

  • O fis Chwefror 2021, bydd is-gwmni newydd o Trafnidiaeth Cymru, sy'n eiddo i'r llywodraeth, yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rheilffordd o ddydd i ddydd, gan ganiatáu i'r llywodraeth chwarae fwy o rhan mewn darparu gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru a'r Gororau, gan adlewyrchu realiti masnachol newydd yr amgylchedd wedi-Covid-19. Gydag ansicrwydd enfawr ynghylch refeniw teithwyr, mae hyn yn rhoi'r sylfaen ariannol fwyaf sefydlog inni reoli gwasanaethau rheilffyrdd wrth inni ddod allan o'r pandemig.
  • Bydd rheolaeth seilwaith a thrawsnewid ar Linelllau Craidd y Cymoedd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn parhau i gael eu cyflawni o dan yr un gontract. Bydd hyn yn darparu sefydlogrwydd i'r rhaglen er mwyn sicrhau bod gwaith trawsnewid Metro De Cymru yn cael ei gyflawni'n effeithiol sydd eisoes wedi cychwyn.
  • Bydd partneriaeth newydd gyda Keolis ac Amey, o dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru yn cael ei greu, a fydd yn caniatáu inni gynnal y gwaith sylweddol, y profiad a'r arbenigedd rhyngwladol bydd yn helpu i gyflawni ymrwymiadau pwysig, megis tocynnau integredig, systemau trafnidiaeth ar alw, dylunio traws-foddol ac integreiddio cynlluniau rheilffyrdd ysgafn a thrwm. 

Bydd y model hwn yn parhau i helpu ni gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd o ansawdd uchel, trwy integreiddio trac a thrên yn effeithiol, gan adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd eisoes trwy drosglwyddo Llinellau canolog y Cymoedd yn gynharach eleni.

Rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ddechrau'r trafodaethau manwl a'u gweithredu yn seiliedig ar yr egwyddorion a amlinellir mewn cytundeb â Keolis ac Amey. Rwyf wedi gofyn iddynt roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau maes o law, wrth i'r newid i'r model cyflenwi newydd ddechrau.

Rwyf am fod yn glir gyda'r aelodau bod rhai dyddiau anodd o'n blaenau, yn ogystal a rhai penderfyniadau anodd wrth inni ddod i delerau â realiti economaidd newydd y coronafirws. Mae llawer o wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru bellach yn ddrytach i'w darparu nag yr oeddent cyn yr argyfwng, ac mae hyn yn wir am fysiau a rheilffyrdd o ganlyniad i'r gostyngiad sydyn mewn galw, sy'n ffynhonnell ariannu holl bwysig i'r rhwydwaith. Fodd bynnag, mae ein uchelgais i barhau i ddarparu system drafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel yn dal i fod, er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau newid hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol ehangach yn cael eu cyflawni. Beth bynnag yw'r dyfodol, mae trafnidiaeth gyhoeddus integredig o ansawdd uchel yn hollbwysig.

Rwy’n siŵr y bydd aelodau’n rhannu ein hawydd i weld Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid yn parhau i gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, a gobeithiaf y bydd aelodau’n croesawu’r diweddariad hon a fydd yn creu’r sylfaen ar gyfer adeiladu’n ôl yn well, wrth i ni i gyd addasu i'r byd wedi y pandemig Covid-19.