Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 28 Mai, cyhoeddais y 'cam' nesaf o'n hymateb i ddigartrefedd - cynllun ar gyfer ailgartrefu pawb sydd wedi cael lloches frys yn ystod pandemig coronafeirws. Fel y nodir yn y datganiad, bydd trawsnewid gwasanaethau yn rhan o'r cam nesaf a chyhoeddais bryd hynny hyd at £20m o gyllid ychwanegol, sef cyfuniad o arian cyfalaf a refeniw.

Gofynnwyd i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi cynllun Cam Dau sy'n nodi sut y byddant yn sicrhau nad oes angen i unrhyw un ddychwelyd i'r stryd, gan ganolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu er mwyn trawsnewid y llety a gynigir ledled Cymru. Ymatebodd awdurdodau lleol yn gyflym iawn, tra hefyd yn parhau i weithio'n ddiflino i gynorthwyo'r rhai oedd mewn angen dybryd. Yr oeddwn yn falch o weld pa mor bell yr aeth awdurdodau i groesawu'r newid sylweddol y gwyddom oll sy'n angenrheidiol er mwyn trawsnewid ein dull o atal digartrefedd.

Cyflwynodd pob un o'r ddau awdurdod lleol ar hugain cais yn cwmpasu dros 230 o brosiectau a chynlluniau unigol, gyda goralw sylweddol ar y pot cyllid cyfalaf gwreiddiol.

Mae hyn yn adlewyrchu maint ein huchelgais ni i gyd o ran achub ar y cyfle hwn i sicrhau newid hirdymor, cynaliadwy a sylfaenol i wasanaethau digartrefedd yng Nghymru. Mae hefyd yn gwbl amlwg nad yw'r gronfa wreiddiol o gyfalaf o £10.5m yn cyfateb i'n huchelgais ar y cyd.

Rwyf wedi dweud yn glir nad wyf am weld neb yn gorfod dychwelyd i'r stryd. I'r perwyl hwn, rwy'n cyhoeddi heddiw gynnydd sylweddol yn y buddsoddiad cyfalaf ar gyfer cam nesaf yr ymateb i ddigartrefedd, ac i gynyddu cyfanswm y cyllid cyfalaf sydd ar gael i hyd at £40m. Mae hyn yn cynyddu cyfanswm cyllid cam 2 digartrefedd i hyd at £50m, sy'n dangos yn glir lefel yr ymrwymiad sydd gennym i sicrhau y gallwn wneud newid sylweddol a thrawsnewidiol tuag at gyflawni ein nod o roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.