Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd cyson yn nifer yr heintiau coronafeirws yng Nghymru. Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am sefyllfa bresennol iechyd y cyhoedd.

Rydym yng nghanol ton newydd o heintiau, a achosir gan yr is-deipiau BA.4 a BA.5 o’r amrywiolyn omicron. Mae’r rhain yn symud yn gyflym ac yn fathau heintus iawn o’r feirws, sy’n achosi ymchwydd mewn heintiau ledled y DU ac mewn llawer o wledydd eraill ar draws y byd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd mai’r amrywiolyn amlycaf yng Nghymru ar hyn o bryd yw’r amrywiolyn BA.5 o omicron.

Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Heintiadau Coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod gan 4.93% o boblogaeth Cymru COVID-19 yn yr wythnos yn diweddu 30 Mehefin – mae hyn yn cyfateb i tua un person o bob 20. Mae hyn wedi cynyddu o amcangyfrif o 1.33% o’r boblogaeth (un o bob 75) o’r wythnos yn diweddu 2 Mehefin.

Ledled y DU, mae amcangyfrifon o gyffredinrwydd y coronafeirws yn amrywio o 3.95% yn Lloegr i 5.94% yn yr Alban ar gyfer yr wythnos yn diweddu 30 Mehefin.

Fel  y gwelsom mewn tonnau blaenorol, mae’r cynnydd mewn achosion yn y gymuned wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty a’u trin ar gyfer COVID-19. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos bod mwy na 960 o gleifion sy’n gysylltiedig â COVID-19 bellach mewn ysbytai yng Nghymru a bu cynnydd hefyd yn nifer y bobl â COVID-19 sy’n cael eu trin mewn gofal critigol.

Mae nifer mawr o staff y GIG i ffwrdd o’r gwaith ar hyn o bryd oherwydd bod COVID-19 arnynt.

Mae’r GIG wedi bod yn gweithio’n galed iawn i ddarparu gofal wedi’i gynllunio i bobl ledled Cymru ac i leihau amseroedd aros, sydd wedi cronni yn ystod y pandemig. Daw’r dasg hon yn fwy anodd pan fydd pwysau pandemig yn cynyddu.

Mae rhai ysbytai wedi gwneud y penderfyniad anodd i gyfyngu ar ymweliadau i atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhlith cleifion a staff; mae eraill yn gofyn i bob ymwelydd wisgo gorchudd wyneb.

Nid ydym yn gwneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn lleoliadau iechyd a gofal, ond byddwn yn annog pawb i wisgo un os ydynt yn ymweld â lleoliad gofal iechyd a byddwn hefyd yn gofyn i bobl ystyried gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do gorlawn, gan fod achosion o’r coronafeirws yn uchel iawn ar hyn o bryd.

Rydym wedi ymestyn argaeledd profion llif unffordd am ddim i bobl sydd â symptomau’r coronafeirws tan ddiwedd mis Gorffennaf. Mae nifer o gamau syml eraill y gall pawb eu cymryd i ddiogelu ein gilydd a diogelu Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cael ein brechu
  • Sicrhau hylendid dwylo da
  • Aros gartref a chyfyngu ar ein cysylltiad ag eraill os ydyn ni’n sâl
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do gorlawn neu gaeedig
  • Cwrdd ag eraill yn yr awyr agored os yw’n bosibl
  • Pan fyddwn dan do, cynyddu’r awyru a gadael awyr iach i mewn