Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog y bydd Cymru’n symud i Lefel Rhybudd Sero 28 Ionawr, rwyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau gweithredol mewn ysgolion.

Fel llywodraeth, rydym yn gwbl glir, ar gyfer lles a dysgu, ei bod yn hanfodol bod plant a phobl ifanc yn yr ysgol. Rwy’n nodi heddiw, os yw’r dystiolaeth yn ei gefnogi, y byddwn yn cadarnhau yn yr adolygiad tair wythnos nesaf ar 10 Chwefror y dylai ysgolion ddychwelyd i wneud penderfyniadau lleol ar gamau liniaru yn unol â’r Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Lleol erbyn dechrau’r hanner tymor newydd ar 28 Chwefror. Bydd gorchuddion wyneb yn parhau mewn lle mewn mewn ysgolion am y tro, yn union fel y mae eu hangen yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus, ar Lefel Rhybudd Sero.

Wrth baratoi, dylai ysgolion weithio gyda'u hawdurdodau lleol a chynghorwyr iechyd y cyhoedd i benderfynu ar y mesurau y gall fod angen iddynt eu rhoi ar waith, yn seiliedig ar eu hamgylchiadau lleol.

Mae cyfran fach o ysgolion wedi gwneud defnydd o ddatgymhwyso Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgol (Cymru) 2009 a roddwyd ar waith ar gyfer dychwelyd dysgwyr ar ddechrau’r tymor hwn er mwyn rhoi hyblygrwydd i ysgolion newid eu hamseroedd sesiynau ysgol dros dro. Bydd y trefniadau hyn, sydd wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i Ysgolion Arbennig, yn cael eu hymestyn tan gwyliau yr hanner tymor, ac wedi hynny bydd gofyn i bob ysgol ddychwelyd i'w hamserlen arferol.

Er mwyn rheoli a gwella awyru mewn ystafelloedd dosbarth, mae monitorau CO2 wedi’u darparu ar gyfer pob ystafell ddosbarth yng Nghymru, a £95m wedi’i ddarparu i gefnogi gwaith cynnal a chadw fel atgyweirio ffenestri neu ailosod ffilteri aer mewn unedau trin aer lle mae ysgolion yn wynebu heriau. Bydd cyngor gan ein Grŵp Cynghori Technegol ar bwysigrwydd awyru a defnyddio dyfeisiau glanhau aer o dan amgylchiadau penodol yn cael ei gyhoeddi yn y dyddiau nesaf, gan gynnig arweiniad i awdurdodau lleol ar ddefnyddio’r dyfeisiau yn y nifer fach o achosion lle mae eu hangen.

Ein ffocws o hyd yw cynyddu dysgu i'r eithaf a lleihau ar unrhyw darfu. Rydw i am ailadrodd wrth ddysgwyr, ysgolion a cholegau y bydd arholiadau ac asesiadau eleni yn mynd yn eu blaen, oni bai bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ei gwneud yn amhosibl iddynt gael eu cynnal - rhywbeth nad ydym yn ei ragweld. Mae addasiadau i gynnwys arholiadau wedi’u rhoi ar waith i gydnabod yr aflonyddwch a wynebwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, fel bod asesiadau mor deg â phosibl, ac a fydd yn galluogi athrawon i ganolbwyntio eu hamser ar y meysydd dysgu allweddol. Gan weithio ar y cyd â Cymwysterau Cymru, rydym yn gweithio gyda cholegau i sicrhau bod dysgwyr sy'n dilyn cymwysterau galwedigaethol hefyd yn gallu cael mynediad at addasiadau priodol eleni. Rwy’n annog pob dysgwr ym mlynyddoedd arholiadau i siarad â’u hysgolion a’u colegau am ba gymorth a hyblygrwydd ychwanegol a allai fod ar gael eleni, i’w helpu i symud yn eu blaen yn hyderus.