Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n bleser gennyf gadarnhau bod 90% o oedolion yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19 a bod 72% hefyd wedi cael eu hail ddos. Mae hyn yn gyflawniad enfawr a hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith rhagorol, yn ogystal â diolch i’r cyhoedd yng Nghymru am fanteisio ar y brechlyn i’w cadw nhw a’u teuluoedd yn ddiogel. Mae hyn yn gynnydd aruthrol ac yn ymdrech tîm gan bawb yng Nghymru.
Mae Pàs COVID y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn caniatáu ichi ddangos i eraill eich bod wedi derbyn brechlyn COVID-19 pan fyddwch yn teithio dramor. Gall pob un sydd wedi’i frechu ac sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru gael ei bàs COVID digidol drwy wefan y GIG. Bydd pob un sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr ond sydd wedi cael y brechiad yng Nghymru yn gallu dangos tystiolaeth o’i ddata brechu COVID drwy wefan y GIG, o 17 Gorffennaf.
Rwy’n ymwybodol bod peth pryder wedi’i fynegi am y sylw yn y cyfryngau bod rhai brechlynnau heb eu hawdurdodi gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd ac nad ydynt yn cael eu cydnabod gan rai gwledydd at ddibenion teithio. Mae pob dos a ddefnyddiwyd yn y DU wedi bod drwy wiriadau diogelwch ac ansawdd trwyadl, gan gynnwys profi sypiau unigol ac archwiliadau corfforol o safleoedd, gan y rheoleiddiwr meddyginiaethau, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Hoffwn fod yn glir nad oes unrhyw frechlynnau Covishield wedi’u rhoi yn y DU. Mae pob brechlyn AstraZeneca a roddwyd yn y DU yn ymddangos ar Bàs COVID y GIG fel Vaxzevria. Mae’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wedi awdurdodi’r brechlyn hwn ac rydym yn hyderus na fydd unrhyw amhariad ar deithio.
Rwyf hefyd yn ymwybodol bod y cyfryngau wedi nodi nad yw rhai gwirfoddolwyr, sydd wedi cymryd rhan yn gwbl anhunanol yn y treialon ar gyfer y brechlynnau, yn gallu rhoi tystiolaeth o’u brechlynnau ac felly eu bod yn cael anhawster teithio dramor. Mae brechlynnau ar dreialon yn cael eu derbyn fel rhai dilys yn y DU ac mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd ar ran y pedair gwlad i annog gwledydd eraill i’w derbyn fel rhai dilys hefyd. Ni fydd yr holl ddata o’r treialon yn ymddangos ar Bàs COVID y GIG tan ddiwedd mis Gorffennaf ond mae timau’r treialon yn cyfathrebu gyda’r gwirfoddolwyr sydd wedi’u heffeithio gan hyn. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r bobl sydd wedi cymryd rhan yn y treialon ac rwy’n benderfynol o sicrhau nad yw hyn yn eu rhoi dan anfantais.
Rwyf wedi clywed bod rhai pobl yn y Gogledd wedi cael anhawster gwneud apwyntiad ar gyfer eu hail ddos o’r brechlyn AstraZeneca. Mae’r rhan fwyaf o’r canolfannau galw heibio yn y Gogledd wedi’u trefnu ar gyfer y rhai o dan 40 oed sydd heb fanteisio ar y brechlyn eto felly mae’r cyflenwad sydd wedi’i drefnu yn addas ar gyfer y grŵp oedran hwn. Dylai unrhyw un sydd angen gwneud apwyntiad i gael ail ddos o’r brechlyn AstraZeneca yn y Gogledd ffonio eu bwrdd iechyd (BIP Betsi Cadwaladr) ar 03000 840004. I gynorthwyo ymhellach, o 14 Gorffennaf bydd slotiau ychwanegol ar gael bob dydd ar gyfer apwyntiadau AstraZeneca ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae gan bob bwrdd iechyd, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ddigon o gyflenwad o’r brechlyn ac maent yn gweithio’n galed i gynnig slotiau mor agos â phosibl i 8 wythnos.
Byddaf yn cyhoeddi diweddariad wythnosol ar y rhaglen frechu COVID-19 heddiw.
Mae’r brechlyn yn amddiffyniad pwysig iawn yn ein brwydr yn erbyn coronafeirws a dychwelyd i wneud y pethau rydym yn eu mwynhau. Ni fydd ein gwaith ar y rhaglen frechu’n dod i ben – nid ydym am adael unrhyw un ar ôl. Rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cynnig o’r brechlyn i’n helpu i fod yn hyderus wrth lacio cyfyngiadau ac agor ein cymdeithas unwaith eto. Gofynnwch i’ch ffrindiau a’ch teulu, yn enwedig y rhai hynny o dan 30 oed, os ydynt wedi cael y brechlyn, a’u hannog i fanteisio arno. Nid yw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechlyn. Mae canolfannau ar draws Cymru ar agor ar gyfer apwyntiadau galw i mewn i’w gwneud yn haws ichi gael eich brechlyn. Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol ond mae mwy o waith eto i’w wneud.