Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol ym mwrdeistref Caerffili ac yn Rhondda Cynon Taf i reoli cynnydd cyflym mewn achosion o’r coronafeirws yn yr ardaloedd hynny.

Rydym wedi bod yn monitro’r sefyllfa yn agos ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd – mae’r cyfraddau yn yr ardaloedd hynny yn awr yn uwch na chyfartaledd Cymru.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd, sydd wedi bod yn cyfarfod yn ddyddiol i adolygu’r sefyllfa ym mhob ardal a phenderfynu pa fesurau sydd eu hangen i reoli lledaeniad y coronafeirws. Yn llawer o’r ardaloedd hyn, mae camau lleol eisoes wedi’u cymryd gan yr awdurdodau lleol, gan gynnwys cyfyngu ar ymweliadau i gartrefi gofal, annog pobl i weithio gartref os yw hynny’n bosibl a gofyn i bobl gyfyngu ar deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Ond oherwydd bod achosion wedi parhau i gynyddu, mae angen inni yn awr gyflwyno cyfyngiadau lleol ym mhob un o’r ardaloedd hyn i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad coronafeirws.

O 6pm ddydd Mawrth 22 Medi, daw’r cyfyngiadau canlynol i rym ar gyfer pobl sy’n byw yn ardaloedd awdurdod lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd:

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i ardal yr awdurdod lleol na gadael yr ardal heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i dderbyn addysg.
  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd. Ni fydd pobl yn cael cwrdd ag aelodau o’u haelwyd estynedig o dan do na ffurfio aelwyd estynedig.
  • Bydd rhaid i bob eiddo trwyddedig gau am 11pm.
  • Mae’n rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do – fel yng ngweddill Cymru.

Byddwn yn adolygu’r mesurau hyn yn gyson a byddant yn cael eu hadolygu’n ffurfiol ymhen pythefnos.

O 6pm ddydd Mawrth 22 Medi, byddwn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod pob eiddo trwyddedig ym mwrdeistref Caerffili yn cau am 11pm.

Cyflwynwyd y cyfyngiadau cychwynnol ym mwrdeistref Caerffili bron i bythefnos yn ôl, a bydd y cyfyngiadau’n cael eu hadolygu’n ffurfiol yr wythnos hon. Mae’r cyfraddau saith diwrnod ym mwrdeistref Caerffili wedi dangos peth lleihad, sy’n gadarnhaol, ac rydym yn ffyddiog bod y cyfyngiadau yn cael effaith.

Bydd y cyfyngiad ychwanegol ar eiddo trwyddedig yn cryfhau’r sefyllfa ymhellach ac yn arwain at gysondeb ar draws yr ardaloedd sy’n wynebu cyfyngiadau lleol.

Mae ein gallu i wneud gwahaniaeth i ledaeniad y feirws yn nwylo pob un ohonom – dim ond gyda’n gilydd y gallwn ni lwyddo. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud y dewisiadau cywir a dilyn y mesurau a fydd yn ein cadw ni a’n hanwyliaid yn ddiogel rhag y feirws heintus a niweidiol hwn:

  • Mae angen inni gadw pellter oddi wrth ein gilydd.
  • Mae angen inni olchi ein dwylo yn aml.
  • Mae angen inni weithio gartref os yw’n bosibl.
  • Mae angen inni wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do.
  • Mae angen inni aros gartref os oes gennym symptomau a phan fyddwn ni’n aros am ganlyniad prawf.
  • Ac mae angen inni gadw at unrhyw gyfyngiadau sydd ar waith yn lleol.

Bydd cyfran fawr o’r boblogaeth yn Ne Ddwyrain Cymru yn awr yn byw o dan gyfyngiadau coronafeirws lleol.

Bydd y Prif Weinidog a minnau’n galw cyfarfod brys gyda’r awdurdodau lleol, byrddau iechyd a lluoedd heddlu yn Ne Cymru – o Ben-y-bont ar Ogwr draw at y ffin â Lloegr – i drafod y sefyllfa ranbarthol yn ehangach ac a oes angen mesurau pellach i ddiogelu iechyd pobl, atal lledaeniad y coronafeirws a diogelu Cymru.

Rwy’n gobeithio gwneud datganiad llafar yfory i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y datblygiadau diweddaraf.