Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy mhenodiad fel y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg ym mis Hydref, hoffwn roi datganiad ynghylch y camau yr wyf yn eu cymryd i gryfhau’r trefniadau llywodraethu presennol mewn perthynas â Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-22 a’n hymateb parhaus i effaith COVID-19 ar iechyd meddwl.

Yn sgil y ffaith bod proffil iechyd meddwl yn cynyddu a rhaglenni gwaith wedi gorfod cael eu sefydlu’n gyflym ar draws y llywodraeth, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a phartneriaid ehangach, rwyf wedi cydnabod bod y trefniadau presennol yn gallu ymddangos yn gymhleth ac nad ydynt yn gwbl glir o safbwynt llywodraethu ac atebolrwydd cyffredinol. At hynny, mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod y pandemig yn cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth yn ogystal â gwasanaethau iechyd meddwl. Er bod amrediad o gamau wedi cael eu datblygu fel ymateb i hyn, gan gynnwys adolygu Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-22, bydd rhaid inni aros am dipyn o amser eto cyn deall beth yw gwir effaith y pandemig ar iechyd meddwl.  

Fel ymateb, rwy’n sefydlu Bwrdd Cyflawni a Goruchwylio Gweinidogol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl i Gymru. Byddaf i’n cadeirio’r Bwrdd Cyflawni a Goruchwylio a’m nod yw datblygu’r gwaith hwn yn gyflym yn ogystal â darparu mwy o eglurder ynglŷn â rolau a chyfrifoldebau, gan sefydlu dull ‘rheoli rhaglenni’ tynnach ar gyfer y trefniadau cyffredinol. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod mesurau tymor hwy yn eu lle i ddarparu trosolwg, arweiniad a chyngor arbenigol ar gyfer sicrhau bod y rhaglen waith iechyd yn datblygu ac yn cyflawni’n barhaus.

Bydd cwmpas y gwaith yn cynnwys y Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl drawslywodraethol yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys yr ymateb iechyd meddwl i COVID-19. Bydd cyswllt rhwng y Bwrdd Cyflawni a Goruchwylio â’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol ar gyfer Gweithredu ar Sail System Gyfan, a bydd y trefniadau llywodraethu ar y cyd presennol ar gyfer y rhaglen waith hon yn parhau. 

Un nodwedd amlwg o’r Bwrdd fydd ei allu i ystyried y dystiolaeth ddadansoddol ddiweddaraf a thystiolaeth ehangach o’r mesurau sydd eu hangen i osgoi cynnydd sydyn mewn anawsterau iechyd meddwl lefel isel ac i gefnogi llesiant meddyliol ymhlith y boblogaeth ac mewn gwasanaethau iechyd meddwl.  

Nid haenen arall o fiwrocratiaeth yw’r Bwrdd Cyflawni a Goruchwylio, ac ni fydd yn datblygu felly. Bydd yn darparu her a chefnogaeth i yrru’r Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn ogystal â’n hymateb parhaus i COVID-19 yn eu blaenau gyda chysylltiad cryf â’r byd academaidd er mwyn sicrhau bod ein dull yn seiliedig ar dystiolaeth. Nid yw’r Bwrdd Cyflawni a Goruchwylio yn disodli’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol. Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn parhau fel ein prif grŵp rhanddeiliaid – bydd yn ymgysylltu â phartneriaid ac yn craffu’n annibynnol ar ein cynnydd, gan fwydo’n uniongyrchol i’r Bwrdd Cyflawni a Goruchwylio. Cefais gyfarfod â’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn gynharach yn ystod y mis i drafod â’i aelodau.  

Bydd y Bwrdd Cyflawni a Goruchwylio yn cyfarfod am y tro cyntaf yn y Flwyddyn  Newydd pan fydd rhagor o wybodaeth am gwmpas llawn y Bwrdd, ynghyd â manylion ei aelodaeth, yn cael eu cyhoeddi.

Rwy’n gwybod y bydd y Nadolig hwn yn anodd iawn i lawer ohonom, ond gofalwch ar ôl eich hunain – os oes angen cymorth arnoch, edrychwch ar yr amrywiaeth o adnoddau hunangymorth sydd i’w cael yn: https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/m/article/mentalhealth/?locale=cy