Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Medi 2021, cyhoeddais lansiad y rhaglen e-Ragnodi. Ers hynny, mae fy swyddogion wedi cydweithio â chydweithwyr y GIG ac eraill i ddatblygu’r gwaith. Heddiw, rwy’n awyddus i roi diweddariad ar y datblygiadau hyd yma, yn ogystal â diweddariad ynglŷn â’r camau nesaf.

Mae’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol (DMTP, y cyfeiriwyd ato yn flaenorol yn e-Ragnodi) yn cynnwys pedwar maes allweddol:

  • Gofal sylfaenol, sy’n cynnwys gweithredu Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ym mhob lleoliad, gan gynnwys deintyddiaeth ac optometreg.
  • Gofal eilaidd, gan gynnwys digideiddio gweithgareddau rhoi presgripsiynau yn yr ysbyty a gweithgareddau gweinyddu meddyginiaethau, gan gynnwys trosglwyddo gwybodaeth am bresgripsiynau yn electronig wrth ryddhau cleifion i leoliadau gofal sylfaenol, ac o wasanaethau cleifion allanol i fferyllfeydd cymunedol.
  • Gweithgarwch cleifion – y gallu, drwy gyfrwng Ap GIG Cymru i weld pa feddyginiaethau sy'n cael eu rhoi ar y pryd, gwneud cais am fwy ohonynt, nodi fferyllfa a ffefrir i gasglu’r meddyginiaethau a lle bo'n briodol, cofnodi pa feddyginiaethau dros y cownter rydych yn eu cymryd).
  • Yr Ystorfa Feddyginiaethau Genedlaethol – lleoliad canolog yw hwn lle y bydd yr holl wybodaeth am feddyginiaethau yn cael ei chadw er mwyn galluogi i wybodaeth gael ei throsglwyddo yn fwy hwylus rhwng lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd, yn ogystal â rhwng byrddau iechyd, mewn amser real.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar bob un o’r pedwar maes hwn ac yn cael ei gynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

O fewn gofal sylfaenol, mae swyddogion a chydweithwyr y rhaglen mewn trafodaethau â NHS Digital yn Lloegr ynglŷn â mabwysiadu’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig. Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddefnyddio i drosglwyddo presgripsiynau yn electronig rhwng meddygon teulu a fferyllfeydd yn Lloegr. Rydym hefyd yn asesu sut y bydd modd sicrhau bod y gwasanaeth yn hygyrch i ddeintyddion ac optometryddion a phresgripsiynwyr eraill mewn gofal sylfaenol sydd ddim yn defnyddio platfformau TG GIG Cymru ar hyn o bryd.

Bwriedir rhoi’r cynllun ar waith mewn nifer bach o bractisiau meddygon teulu a fferyllfeydd yn ystod tymor yr haf 2023, ac yna bydd yn cael ei roi ar waith yn ehangach. Mae trafodaethau wedi dechrau ynglŷn â sut y gellir cyflawni hyn yn ddi-oed ym mhob practis meddyg teulu ac ym mhob fferyllfa, ac mae tîm y Rhaglen yn gweithio gyda chyflenwyr y system a chydweithwyr gofal sylfaenol i wireddu hyn. Mae gwaith yn cael ei gynllunio yn benodol o ran ymgysylltu â phresgripsiynwyr anfeddygol mewn gofal sylfaenol a deall y gofynion sydd ganddynt.

O fewn gofal eilaidd, mae fframwaith caffael yn cael ei greu ar gyfer rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau yn electronig (ePMA). Mae hwn yn seiliedig ar gyfres o ofynion Cymru gyfan, yn glinigol ac yn dechnegol, a fydd yn galluogi i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i feithrin cysylltiadau â chyflenwyr o fewn y fframwaith i sicrhau’r datrysiad gorau posibl. Rhaid i bob datrysiad weithio gyda systemau cenedlaethol eraill gan sicrhau bod modd cael gafael ar ddata ar draws ffiniau byrddau iechyd. Mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn gweithio’n gyflym i sefydlu timau cyn cyflawni er mwyn arwain ar y gwaith o ganfod eu gofynion lleol penodol a dechrau cynllunio ar gyfer mabwysiadu datrysiad electronig ar gyfer Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cyrraedd y cam o recriwtio aelodau i’w tîm cyn cyflawni. Ar hyn o bryd, mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ar lefelau gwahanol o ran eu parodrwydd i fabwysiadu’r system electronig ar gyfer Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau. Mae rhai wedi bod yn cynllunio i’w fabwysiadu ers peth amser, tra nad yw eraill wedi gallu sicrhau’r modd i wneud hynny tan yn ddiweddar. O ganlyniad felly, ni fydd pob Bwrdd Iechyd yn dechrau ar y daith o fabwysiadu’r system ar yr un adeg, nac ar yr un camau o’r daith honno. Gall dyddiadau dechrau ymddangos yn wahanol felly ar gyfer pob Bwrdd Iechyd. Bydd hyn yn galluogi cynnydd mewn dysgu yn ogystal â galluogi proses o rannu’r hyn a ddysgir wrth i’r rhaglen ddatblygu ar draws ein holl ysbytai.

O ran gweithgarwch ar gyfer cleifion, mae’r Rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a'r Cyhoedd (sydd yn cael ei chynnal hefyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru) wedi comisiynu darn o waith ymchwil defnyddwyr gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ynglŷn â pha swyddogaethau gofal sylfaenol ddylid eu cynnwys yn Ap GIG Cymru. Bydd y Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol yn defnyddio hwn a’u gwaith eu hunain i benderfynu sut y mae pobl yn dymuno defnyddio Ap GIG Cymru i reoli eu meddyginiaethau. Bydd hyn yn sicrhau bod dyluniad Ap GIG Cymru yn adlewyrchu anghenion a safbwyntiau cleifion.

Mae gwaith yr Ystorfa Feddyginiaethau wedi dechrau drwy gaffael platfform (ar sail prawf o gysyniad) a allai fod yn sail iddi. Bydd asesiad llawn o dechnolegau posibl yn cael ei gynnal yn ystod yr haf eleni, cyn i’r tîm symud ymlaen â’r gwaith o ddatblygu’r fersiwn derfynol o’r Ystorfa Feddyginiaethau. Bydd yr ystorfa yn seiliedig ar safonau agored y diwydiant ar ddata sy’n golygu y bydd unrhyw blatfform yn gallu rhannu data â hi. Yn ogystal, bydd yr ystorfa yn cael data o blatfformau eraill sy’n rhoi presgripsiynau sy’n cael eu defnyddio ledled GIG Cymru, er enghraifft y system Uned Gofal Dwys Digidol a’r cynllun Cyfnewid Systemau Gwybodaeth am Ganser. Mae gan y rhain swyddogaethau arbenigol iawn o ran rhoi presgripsiynau ond bydd y data hynny ar gael er mwyn galluogi i glinigwyr i wneud penderfyniadau wedi’u hysbysu’n llawn am feddyginiaethau wrth ystyried sut i drin cleifion.

Disgwylir y bydd y broses lawn, gymhleth o roi’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol ar waith yn cymryd rhwng tair a phum mlynedd. Bydd rhai rhannau o’r rhaglen, fel y gwasanaeth presgripsiynau electronig mewn gofal sylfaenol a swyddogaethau yn Ap GIG Cymru ar gael yn gynt. Mae timau ledled y GIG yn gweithio’n galed i gyflawni’r newid sylweddol hwn er mwyn gwella’r modd yr ymdrinnir â gwybodaeth am feddyginiaethau yng Nghymru.

Mae tîm cyfathrebu yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod proses effeithiol a chyson o gyfathrebu datblygiadau o bob rhan o’r Portffolio, yn ogystal â sicrhau bod proses ymgysylltu ddwy ffordd gyda’r llawer o randdeiliaid ledled Cymru a fydd yn elwa o’n Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol uchelgeisiol.

Byddaf yn parhau i ddiweddaru’r Aelodau wrth i waith fynd rhagddo.