Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Julie James AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i ddiogelu pobl yn eu cartrefi, ac wedi ymrwymo i gyflawni diwygiadau er mwyn amddiffyn pobl sy’n byw mewn adeiladau uchel iawn yng Nghymru.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn o fewn Tymor y Senedd hon. Cyn cyhoeddi’r papur hwnnw, rydym wedi amlinellu’r cynnydd a wnaed hyd yma a gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr holl ddiwygiadau sy’n angenrheidiol i wneud y gwelliannau gofynnol ar ddiogelwch tân ac adeiladau.

Mae’r Datganiad Sefyllfa ar Ddiogelwch Adeiladau hefyd yn nodi’r materion lefel uchel a fydd yn destun ymgynghoriad drwy Bapur Gwyn.

https://llyw.cymru/diogelwch-adeiladau-datganiad-sefyllfa