Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fore heddiw cymerais ran mewn cyfarfod COBR ar draws y DU. Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan Brif Weinidog y DU ac roedd Prif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon a hefyd ddirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn bresennol.

Cafodd cyfres o gamau gweithredu ar draws y DU eu trafod yn ystod y cyfarfod. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno ar y cyd ar draws y pedair gwlad er mwyn ymateb i’r cynnydd yn nhrosglwyddiad y coronafeirws.

Croesewais ymrwymiad Prif Weinidog y DU i sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar draws y DU mewn modd rheolaidd a dibynadwy – gan sicrhau bod y llywodraethau datganoledig yn chwarae rhan glir a phwysig yn y broses honno.

Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld cynnydd cyffredinol yn nifer yr achosion o’r coronafeirws ar draws Cymru – nid yw’r cynnydd hwn wedi digwydd i’r un graddau ar draws y wlad. Mae nifer yr achosion o’r feirws wedi cynyddu’n fwy sylweddol ac yn gyflymach mewn rhai ardaloedd o’u cymharu ag ardaloedd eraill. Dyma’r rheswm dros gyflwyno cyfyngiadau lleol mewn chwe ardal awdurdod lleol yn Ne Cymru er mwyn diogelu iechyd pobl.

Cafodd mesurau newydd ar gyfer Cymru gyfan eu cyflwyno yn yr adolygiad diwethaf o gyfyngiadau’r coronafeirws er mwyn helpu i reoli lledaeniad y feirws. Mae’r rhain yn cynnwys gofyn i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do a chyfyngiad newydd ar nifer y bobl a all gyfarfod dan do. Mae aelwydydd estynedig wedi’u gwahardd ar hyn o bryd yn yr ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol.

Gwnaeth pedair Llywodraeth y DU gytuno heddiw ar yr angen i gymryd rhagor o gamau atal ar yr un pryd er mwyn rheoli lledaeniad y feirws.

Mae rhai o’r camau hyn, gan gynnwys yr angen i bobl weithio gartref lle y bo’n bosibl, eisoes mewn grym yng Nghymru ers diwedd mis Mawrth. Rydym hefyd yn parhau i annog pobl i feddwl yn ofalus am y bobl y maent yn cyfarfod â nhw ac ystyried a oes angen teithio.

Byddwn, fodd bynnag, yn cyflwyno rhai mesurau newydd yng Nghymru a fydd yn dod i rym ar yr un pryd â’r mesurau eraill ar gyfer y DU er mwyn helpu i atal argyfwng arall o ran y coronafeirws.

O 6pm nos Iau bydd yn rhaid i fusnesau lletygarwch yng Nghymru - gan gynnwys tafarnau, caffis, bwytai a chasinos - gau am 10pm. Bydd yn rhaid iddynt hefyd gynnig gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig. Bydd yn rhaid i siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd, hefyd roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm.

Mae angen i bawb helpu er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud gwahaniaeth o ran y coronafeirws yng Nghymru. Mae angen i bawb ddilyn y rheolau a’r canllawiau a chymryd y camau i ddiogelu eu hunain a’u hanwyliaid. Gyda’n gilydd, fe allwn ni ddiogelu Cymru.