Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae Deddf y Coronafeirws 2020 ('Deddf 2020') yn cynnwys ystod o bwerau i Weinidogion Cymru ymateb i ledaeniad y feirws, a'i reoli. Mewn perthynas â chyfraith tai, mae adran 81 ac Atodlen 29 i Ddeddf 2020 yn oedi pryd mae landlord yn cael troi tenant allan drwy gynyddu dros dro y cyfnod hysbysu y mae rhaid ei roi cyn gallu cyflwyno hawliad meddiant gerbron y llys.
Mae’r Atodlen yn gymwys i bob landlord sydd wedi rhoi tenantiaethau o dan Ddeddf Rhenti 1977 a Deddfau Tai 1985, 1988 ac 1996. Mae hi’n ofynnol rhoi chwe mis o rybudd ar gyfer hysbysiadau a gyflwynir mewn cysylltiad â phob tenantiaeth warchodedig; pob tenantiaeth statudol; pob tenantiaeth ddiogel; pob tenantiaeth sicr; pob tenantiaeth fyrddaliadol sicr; pob tenantiaeth ragarweiniol; a phob tenantiaeth isradd, ac eithrio – mewn perthynas â phob un o’r tenantiaethau hyn – pan fo’r hysbysiadau hynny’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drais domestig.
Mae Atodlen 29 yn gymwys i hysbysiadau a gyflwynir yn ystod y cyfnod perthnasol, a oedd i fod i ddod i ben ar 30 Mehefin 2021. Caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod perthnasol y tu hwnt i 30 Mehefin 2021 gan ddefnyddio'r pwerau a nodir ym mharagraffau 1(2) a 14(1) o Atodlen 29.
Yn ystod y ddadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Deddf 2020, a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2020, ymrwymodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu datganiad cyhoeddus ar bob defnydd o'r pwerau o dan y Ddeddf. Gallaf gadarnhau yn awr fy mod, fel y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi gwneud Rheoliadau o dan baragraffau 1(2) ac 14(1) o Atodlen 29 i Ddeddf 2020. Mae'r Rheoliadau yn estyn y cyfnod perthnasol y bydd darpariaethau Atodlen 29 yn gymwys iddo tan 30 Medi 2021.
Diben y newid hwn yw sicrhau bod landlordiaid, yn ystod yr argyfwng cyhoeddus sydd ohoni, ac yng ngoleuni’r ansicrwydd sy’n parhau yn sgil amrywiolion newydd y feirws, yn parhau i roi mwy o rybudd i denantiaid sydd mewn perygl o gael eu troi allan o eiddo rhent cyn i landlordiaid allu cychwyn achos adennill meddiant. Yr effaith fydd oedi cyn troi tenantiaid allan sy’n golygu: bydd llai o bobl yn wynebu cael eu troi allan a dod yn ddigartref ar adeg pan fydd awdurdodau lleol yn llai tebygol o allu ymateb i’r sefyllfaoedd hyn; bydd y rhai sy'n rhentu eu cartrefi yn elwa ar fwy o ddiogelwch a llai o bryder; a bydd unigolion sydd mewn perygl o gael eu troi allan yn cael mwy o amser i ofyn am gymorth i ddatrys unrhyw broblemau.
Rydym hefyd yn ystyried pa gefnogaeth bellach y gellir ei rhoi er mwyn lliniaru effeithiau’r pandemig ar y sector.
Bydd y newid i’r cyfnod perthnasol yn dod i rym ar 30 Mehefin 2021. Yn yr achos hwn ni ddilynwyd y confensiwn na ddylai Rheoliadau ddod i rym am o leiaf 21 diwrnod ar ôl eu gosod. Mae hyn yn adlewyrchu’r angen brys i barhau i ddarparu gwell sicrwydd deiliadaeth yn ystod y cyfnod hwn, gan gyfrannu at y mesurau sydd eisoes ar waith i ymateb i’r feirws.
Gellir gweld copi o'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â nhw yma ac yma