Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r cyngor a gefais gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn dilyn cyhoeddi canllawiau newydd Sefydliad Iechyd y Byd ar wisgo masgiau, ar 5 Mehefin 2020. Rwy’n ddiolchgar am y cyngor hwn ac yn derbyn yr argymhellion.

Rwyf wedi cyhoeddi eisoes bod Llywodraeth Cymru bellach, yn sgil y canllawiau hyn, yn argymell bod y cyhoedd yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn sefyllfaoedd lle nad oes modd cynnal pellter cymdeithasol. Mae ein cyngor i'r rhai sy'n gwneud gorchuddion o'r fath wedi'i ddiweddaru yn unol â hynny.

O ran defnyddio masgiau meddygol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi cadarnhau mae’r sefyllfa o hyd yw y dylai masgiau o safon feddygol gael eu cadw i’w defnyddio wrth ofalu’n uniongyrchol am gleifion neu breswylwyr. Mae hyn yn unol â’r canllawiau ar Atal a Rheoli Heintiau y cytunwyd arnynt ledled y Deyrnas Unedig ac a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae'r Prif Swyddog Meddygol hefyd yn nodi’n glir nad oes digon o dystiolaeth i gyfiawnhau gofyn i weithwyr mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai clinigol wisgo masgiau meddygol.  Mae'n parhau i fod o'r pwys mwyaf fod staff iechyd a gofal cymdeithasol yn cadw at y rheolau pellter cymdeithasol bob amser, ac yn dilyn arferion da o ran golchi dwylo a hylendid anadlol. Yng Nghymru, mae gan sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol. Yn amlwg, mewn amgylchiadau eithriadol lle bo hyn yn amhosibl, mae’n rhaid i rhaid i staff gael gwisgo masg meddygol os dymunant. 

Rwy’n derbyn hefyd bod lle i ddefnyddio masgiau meddygol i amddiffyn pobl agored i niwed mewn lleoliadau lle mae’r risg yn uwch. Rwyf wedi derbyn, felly, y dylai pobl a warchodir yng Nghymru wisgo masg meddygol os oes rhaid iddynt fynd i mewn i leoliad sy’n darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol – er y dylid sicrhau, hyd y bo modd, nad oes angen ymweliadau o’r fath. Pan fydd angen i aelodau eraill o’r cyhoedd fynd i mewn i’r lleoliadau hyn, gallant hwythau hefyd wisgo gorchudd wyneb os dymunant. 

Mae masgiau meddygol yn rhan hanfodol o’r cyfarpar diogelu personol a ddefnyddir wrth roi gofal uniongyrchol. Fodd bynnag, gallai eu defnyddio'n ehangach arwain at ganlyniadau niweidiol os bydd pobl yn meddwl y cânt osgoi cadw pellter cymdeithasol wrth wisgo masg, os nad ydynt defnyddio’r masgiau’n gywir ac yn eu gwaredu’n briodol, neu os yw’r masg yn peri i’r unigolyn gyffwrdd â’i wyneb yn amlach. O’r herwydd, prin yw’r dystiolaeth fod defnydd ehangach o fasgiau meddygol yn fanteisiol i staff nac i’r cyhoedd.