Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf ADY”) yn parhau yn bwysig i’r plant hynny sydd newydd gael gwybod bod ganddynt ADY ac, o fis Ionawr 2022, mae plant â darpariaeth addysgol arbennig drwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy a’r hyn sy’n cyfateb i hynny yn y blynyddoedd cynnar wedi cychwyn symud i’r system ADY.
Mae gwaith ymgysylltu parhaus wedi digwydd gyda phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau bod y broses o symud at y system ADY newydd yn llyfn. Er hynny, mae’r sefyllfa sy’n parhau oherwydd y pandemig wedi golygu bod y broses o symud plant o’r system AAA i’r system ADY wedi bod yn arafach na’r disgwyl. Rwyf eisiau sicrhau’r Aelodau nad oes yr un plentyn wedi profi anfantais oherwydd hyn.
Mae’n bwysig bod ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion (UCD) ac awdurdodau lleol yn cael amser i gwblhau’r broses ADY mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y person, gan roi barn plant a’u teuluoedd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Er mwyn sicrhau bod yr amser angenrheidiol gan ysgolion, UCD ac awdurdodau lleol i symud plant o’r system AAA i’r system ADY, rwyf wedi penderfynu ychwanegu blwyddyn at yr amser sydd ar gael er mwyn symud plant yn ystod y flwyddyn gyntaf o’r cyfnod gweithredu. Mae hyn yn golygu bod plant a oedd i fod i gael eu symud rhwng mis Ionawr 2022 a mis Awst 2022, bellach yn symud i’r system ADY rhwng mis Ionawr 2022 a mis Awst 2023.
Bydd yr estyniad hwn yn cael ei gynnwys o fewn yr amserlen tair blynedd bresennol. Cyflawnwyd hyn drwy ad-drefnu sut y bydd grwpiau penodol o blant yn symud yn yr ail a'r drydedd flwyddyn o'r cyfnod gweithredu:
Blwyddyn ysgol 2022/23 – plant â darpariaeth addysgol arbennig drwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy: Blwyddyn 10 (ac unrhyw blant oedd yn Meithrin, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 10 yn 2021/22 nad oeddent wedi symud i’r system ADY yn ystod 2021/22)
Blwyddyn ysgol 2022/23 – plant â darpariaeth drwy ddatganiadau: Meithrin Derbyn, Blwyddyn 6, Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11.
Blwyddyn ysgol 2023/24 – plant â darpariaeth addysgol arbennig drwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy: Meithrin, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4, Blwyddyn 6, Blwyddyn 8 a Blwyddyn 10.
Blwyddyn ysgol 2023/24 – plant â darpariaeth drwy ddatganiadau: Blwyddyn 2, Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5, Blwyddyn 6, Blwyddyn 8, Blwyddyn 9, Blwyddyn 10.
Mae'r estyniad a'r ad-drefnu hwn yn golygu y bydd yn ofynnol yn awr i ysgolion, UCDau ac awdurdodau lleol symud llai o blant yn ystod dwy flynedd gyntaf eu gweithredu. Nid effeithir ar yr hawl i blant, a'u rhieni, ofyn i'r plentyn symud i'r system ADY – sy'n golygu na fydd yr estyniad a'r ad-drefnu yn effeithio ar blant sydd am symud i'r system ADY.
Bydd rhagor o wybodaeth am sut y bydd y broses o gychwyn yn gweithio yn ystod ail a thrydedd flwyddyn y broses weithredu, gan gynnwys canllawiau, yn cael ei chyhoeddi yn nhymor yr haf.