Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bob dydd, mae miloedd o ofalwyr yn helpu pobl i gadw’n ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi. Mae’r gefnogaeth hon wedi dod yn bwysicach fyth yn ystod y pandemig coronafeirws.

Dros y ddau fis diwethaf, mae mwy o bobl wedi ymgymryd â rôl ofalu – mae pobl wedi symud cartrefi, wedi gadael eu teuluoedd ac, mewn rhai achosion, wedi rhoi’r gorau i’w gwaith i amddiffyn ac i ofalu am berthnasau neu ffrindiau. Mae llu o ofalwyr di-dâl wedi helpu gwasanaethau allweddol yng Nghymru i ymdopi â’r pwysau cynyddol a achosir gan y coronafeirws. 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gofalwyr. Roedd ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant arloesol yn rhoi’r un hawliau i ofalwyr gael gofal a chefnogaeth â’r bobl maent yn gofalu amdanynt. 

Rwyf yn gwybod bod y Ddeddf Coronafeirws frys wedi achosi rhywfaint o bryder y gallai hawliau cyfreithiol gofalwyr gael eu rhoi yn y fantol a’i bod hi’n bosibl y byddid yn diddymu’r trefniadau i'w cefnogi nhw a’r rheini maent yn gofalu amdanynt.

Nid gwanhau hawliau gofalwyr yng Nghymru yw bwriad y ddeddfwriaeth frys hon. Rwyf yn disgwyl i awdurdodau lleol gynnal yr hawliau a roddir o dan Ddeddf 2014. Rwyf yn gwybod y bydd awdurdodau lleol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynnal y gofal a’r gefnogaeth yn ystod y pandemig. 

Mae awdurdodau lleol a darparwyr gofal dan bwysau – maent yn wynebu her ddeuol prinder yn y gweithlu oherwydd salwch a phatrymau gweithio newydd o ganlyniad i’r cyfyngiadau. Efallai y bydd angen gwneud rhai penderfyniadau ynghylch blaenoriaethu gofal a neu gefnogaeth ond bydd y rhain yn seiliedig ar yr egwyddorion cyffredinol a’r gwerthoedd craidd ar gyfer gofal cymdeithasol sef llais, rheolaeth a chydgynhyrchu. 

Os caiff unrhyw newidiadau eu gwneud, dros dro yn unig fydd y rheini, a rhaid gallu eu cyfiawnhau oherwydd amgylchiadau lleol nad oedd modd eu hosgoi a byddant yn cael eu dileu ar y cyfle cyntaf. Os bydd unrhyw newid i ofal neu i gefnogaeth unigolyn, rhaid wedyn dychwelyd i’r trefniadau cyn yr addasu ar y cyfle cyntaf. Byddwn yn parhau i adolygu unrhyw newidiadau.

Rydym wedi gweithio gyda mudiadau gofalwyr a phartneriaid eraill ar draws gofal cymdeithasol i ddatblygu canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod hwn. Maent yn ceisio cydbwyso hawliau â’r pwysau critigol sydd ar ofal cymdeithasol.

Rwyf wedi nodi disgwyliadau clir iawn ei bod yn rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod trefniadau gofal a chefnogaeth yn gynaliadwy. Nid yw’r penderfyniadau a gaiff eu gwneud gan unigolion a’u teuluoedd mewn ymateb i’r pandemig yn sail dros bennu sut caiff anghenion eu diwallu yn y dyfodol ac a oes angen eu diwallu yn y dyfodol. Nid yw gallu pobl i ymdopi yn ystod cyfnod o argyfwng yn arwydd eu bod yn gallu darparu gofal a chefnogaeth am gyfnodau hir. 

Mae’r trydydd sector wedi ymateb i’r coronafeirws yn gyflym ac yn hyblyg. Rwyf yn awyddus i ni ddysgu o’r ffyrdd newydd o weithio, sydd wedi datblygu, pan fydd y cyfyngiadau symud yn cael eu codi.

Er mwyn cefnogi hyn, ac er mwyn cryfhau’r seilwaith trydydd sector yng Nghymru, cafodd Cronfa Ymateb COVID-19 y Trydydd Sector gwerth £24m ei lansio ar 6 Ebrill. Rydym hefyd wedi gofyn i’r 32 sy’n derbyn y Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy gwerth £8.5m newid ffocws eu prosiectau i gefnogi’r ymateb i’r pandemig presennol.

Mae ymgysylltiad â gofalwyr a’u cynrychiolwyr yn parhau i gyfrannu at ein gwaith datblygu polisi a chyflenwi gwasanaethau yn ystod y pandemig. Rydym wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a phartneriaid i ddatblygu adnoddau, a fydd yn cefnogi gofalwyr unigol i ddatblygu cysylltiadau cadarnhaol gyda fferyllwyr lleol yn ystod yr argyfwng hwn a’r tu hwnt.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod darpariaeth mewn lle i gefnogi dysgu gofalwyr ifanc, gan ddeall y pwysau ychwanegol sydd ar ofalwyr ifanc, ac ystyried eu cyfrifoldebau yn y cartref. Mae arnom eisiau sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i gydbwyso gwaith ysgol â bywyd cartref, er mwyn sicrhau na fydd eu hiechyd a’u llesiant eu hunain yn dioddef.

Rwyf yn cynnull grŵp gorchwyl a gorffen gyda chynrychiolwyr gofalwyr er mwyn ystyried y dystiolaeth a’r canllawiau sy’n dod i’r fei am y coronafeirws a’r hyn mae gofalwyr yn dweud wrthym sydd ei angen arnynt. Bydd hyn yn sicrhau bod camau gweithredu nawr ac yn y

dyfodol yn arwain at y budd mwyaf. Bydd y grŵp yn ein cefnogi i ystyried anghenion penodol ystod eang o ofalwyr pan fydd y cyfyngiadau symud presennol yn cael eu llacio.

Mae'r coronafeirws yn newid y ffordd rydym yn byw, yn gweithio ac yn gofalu am ein teuluoedd a’n ffrindiau. Mae rhagor ohonom yn profi bywyd fel gofalwr amser llawn neu’n gwirfoddoli yn ein cymuned leol. Mae’r pandemig wedi rhoi llwyfan haeddiannol iawn i staff y rheng flaen yn y system iechyd a gofal ond mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod rôl gofalwyr di-dâl a’u cefnogi i fyw’n iach a pharhau i ofalu’n hyderus.