Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a Jane Hutt AS, Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio tuag at sicrhau cydraddoldeb i bawb, ac yn dweud yn glir bod hyn yn golygu ystyried gwahanol ffurfiau o gamwahaniaethu ac anfantais sy'n effeithio ar ei gilydd, gan geisio sicrhau canlyniadau cyfartal i bawb.

Mae Llywodraeth y DU wedi methu cadw at ei hymrwymiad i ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad y Ddeddf Cydnabod Rhywedd drwy ohirio dyddiad cyhoeddi'r adolygiad dro ar ôl tro. Rydym wedi bod yn pwyso am ddyddiad cyhoeddi pendant, ac roeddem yn siomedig iawn o weld rhannau penodol o'r adroddiad yn cael eu datgelu’n answyddogol heb i Lywodraeth y DU drafod yn briodol â Llywodraeth Cymru.

Mae hyn wedi achosi cryn dipyn o boen meddwl a phryder i bobl drawsryweddol a'r gymuned LHDT+ ehangach yma yng Nghymru ac ar draws y DU. Credwn fod menywod traws yn fenywod, bod dynion traws yn ddynion, a bod hunaniaethau anneuaidd yn gwbl ddilys. Rydym am ailddatgan ein bod yn cefnogi hawl pobl drawsryweddol i hunan-ddiffinio.

Rydym wedi mynegi ein rhwystredigaeth yn uniongyrchol wrth Lywodraeth y DU ar sawl achlysur ynghylch cyhoeddiadau mewn perthynas â'i safbwynt ar yr ymgynghoriad a'r adolygiad. Rydym wedi pwyso am eglurder o ran y cyfeiriadau at ofod un rhyw, methodoleg y gwiriadau ac wedi gofyn am ymrwymiad na fydd newidiadau i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Byddwn yn ysgrifennu eto at Weinidog Cydraddoldeb Llywodraeth y DU, Liz Truss AS er mwyn gofyn iddi symud ymlaen ar fyrder.

Byddwn yn cyflwyno ein sylwadau ar yr adolygiad a gyhoeddwyd i'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd ar y cyfle cyntaf, ac fe fyddwn yn sicrhau bod hawliau pobl drawsryweddol yn cael eu diogelu hyd eithaf ein pwerau.

Rydym wedi darparu cyllid i Stonewall Cymru er mwyn iddynt ddechrau gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu Cynllun Gweithredu Trawsryweddol i Gymru. Mewn cyfarfod adeiladol yr wythnos hon, dan gadeiryddiaeth Stonewall Cymru, fe glywom yn uniongyrchol gan aelodau o'r gymuned drawsryweddol a fynegodd eu pryderon am ddiffyg cynnydd o du Llywodraeth y DU o ran ei hymrwymiad at ddiwygio'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd. Yn benodol, roeddent yn siomedig ei bod yn ymddangos yn gynyddol debygol y bydd eu hawliau dynol fel pobl drawsryweddol yn dirywio.

Rydym yn rhannu eu pryderon.

Efallai bod y Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn ymwneud yn bennaf â materion sydd wedi’u cadw yn ôl, byddwn yn edrych i weld pa gamau y gallwn eu cymryd i gefnogi pobl drawsryweddol mewn meysydd cysylltiedig sydd o fewn ein cymhwysedd.