Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg a Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym heddiw yn falch o gael cydgyhoeddi bod cronfa wedi gael ei sefydlu i gefnogi sector addysg awyr agored breswyl yng Nghymru gyda dyraniad cychwynnol o £2m. Bydd y gronfa hon yn rhoi cymorth i ganolfannau cymwys ledled Cymru i dalu am gostau gweithredu hanfodol rhwng Mehefin a Medi 2021. 

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio’n negyddol ar ganolfannau preswyl addysg awyr agored yng Nghymru, fel mewn gwledydd eraill. Nid yw llawer o leoliadau wedi gallu ailgydio yn eu darpariaeth ddysgu awyr agored ers Mawrth 2020. Gan fod y pandemig yn dal yma ynghyd â’r mesurau i leihau trosglwyddiad y feirws, mae canolfannau preswyl awyr agored yn debygol o barhau i ddioddef. Mae hyn yn effeithio nid dim ond ar y canolfannau, eu staff ac economi eu cymunedau lleol, mae hefyd yn effeithio ar y plant a’r bobl ifanc sy’n elwa ar y profiadau y maent yn eu cael yn y canolfannau preswyl hyn. 

Cyn y pandemig, byddai miloedd o blant ysgol Cymru yn mwynhau’r profiadau a’r cyfleoedd addysgol y mae’r canolfannau hyn yn eu cynnig i blant a phobl ifanc. Maent yn darparu cyfleoedd dysgu dan arweiniad arbenigwyr y tu allan i’r dosbarth, ac mae’r manteision o ran lles y dysgwyr yn gydnabyddedig. Mae addysg antur yn rhywbeth unigryw ar daith person ifanc drwy’r ysgol, ac mor werthfawr fel bod rhieni yn fodlon talu amdani, ac athrawon ac arbenigwyr yn fodlon rhoi o’u hamser i gynnig profiadau a fydd yn cyfoethogi bywydau’r dysgwyr.

Bydd addysg awyr agored yn chwarae rôl bwysig o ran cwricwlwm newydd Cymru, a bydd yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i lawer o economïau lleol wrth inni ddechrau cymryd camau gofalus i godi cyfyngiadau COVID-19. 

Rydym wedi gwrando’n astud ynghylch pryderon y sector, a’r heriau penodol sy’n ymwneud â chanolfannau preswyl addysg awyr agored. Mae llawer o sefydliadau’r sector wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, ond mae angen sicrhau bod y cymorth yn parhau i fod ar gael lle bo angen. Caiff cronfa ei sefydlu, felly, i gefnogi sector addysg awyr agored breswyl Cymru.

Caiff mwy o fanylion am y Gronfa, gan gynnwys pryd y bydd ar agor i ymgeiswyr, eu rhyddhau ym mis Mai.