Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn gynharach eleni, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol i ystyried trefniadau e-Ragnodi yng Nghymru. Daeth yr adolygiad, a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan randdeiliaid o bob rhan o GIG Gymru, i ben ym mis Ebrill. Ers hynny, mae swyddogion wedi gweithio gyda’u chydweithwyr yn y GIG i ddatblygu cynllun i weithredu e-Ragnodi drwy gydol cylch oes presgripsiwn. Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn amlinellu sut y byddwn yn darparu rhaglen e-Ragnodi gynhwysfawr i Gymru.

Rydym am wneud yn siŵr bod gwasanaethau’n darparu’r canlyniadau gorau i ddinasyddion, a’u bod yn gweithredu’n seiliedig ar ddymuniadau dinasyddion a darparwyr gwasanaethau o ran defnyddio a rheoli’r gwasanaethau hynny. Drwy raglen e-Ragnodi, gallwn wella a digideiddio sut mae cleifion, clinigwyr, a fferyllwyr yn cael mynediad at y ddarpariaeth o feddyginiaethau ar draws y system iechyd, er mwyn ei rheoli. Bydd hyn yn cynnwys: cleifion yn cael mynediad at feddyginiaethau, clinigwyr yn rhagnodi meddyginiaethau, fferyllwyr yn rhoi sicrwydd ac yn gweinyddu presgripsiynau, ac awdurdodau monitro yn archwilio ac yn prisio meddyginiaethau.

Nododd yr adolygiad yr argymhelliad allweddol a fydd yn cyflawni’r gwaith hwn ar draws pedwar maes e-Ragnodi ochr yn ochr â’i gilydd. Disgwylir i hyn gael ei wireddu o fewn tair i bum mlynedd. Dyma’r pedwar maes a nodir yn yr adolygiad: gofal sylfaenol, gofal eilaidd, mynediad gan gleifion, ac ystorfa data meddyginiaethau. Gyda chymorth platfform digidol, bydd y rhaglen hon yn trawsnewid rhagnodi yng Nghymru.

Bydd y rhaglen yn darparu gwasanaeth digidol ar gyfer rhoi a derbyn presgripsiynau. Ar hyn o bryd, mae meddygon teulu a chlinigwyr eraill mewn gofal sylfaenol yn cynhyrchu presgripsiynau’n electronig, ond mae’n rhaid iddynt argraffu a llofnodi copïau caled sy’n cael eu cludo i fferyllfa i gael yr hyn a ragnodir. Mae’r copïau caled o bresgripsiynau yn cael eu harchifo at ddibenion adrodd gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Bydd y rhaglen yn cwblhau’r gwaith o ddigideiddio’r broses hon, sy’n golygu y bydd presgripsiynau papur, a lofnodir mewn inc, yn cael eu disodli gan bresgripsiynau a llofnodion electronig. Caiff presgripsiynau eu hanfon yn electronig o’r rhagnodydd awdurdodi yn uniongyrchol i’r fferyllfa i’w gweinyddu.

Bydd y rhaglen yn rhoi platfform electronig ar waith ar gyfer presgripsiynau mewn ysbytai, yn ogystal â darparu siartiau cyffuriau electronig i symleiddio’r gwaith o weinyddu meddyginiaethau. Yn ddiweddar, cafodd cynllun e-Ragnodi peilot ei weithredu ar draws dau ysbyty gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Byddwn yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd am newidiadau sefydliadol i greu ein Rhaglen e-Ragnodi Genedlaethol. Bydd cymhwyso’r gwersi hyn ar gyfer Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd eraill yn caniatáu inni gyflymu’r broses o ddefnyddio’r ateb hwn ar draws Cymru.

Mae sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at wybodaeth well am eu meddyginiaethau yn ystyriaeth bwysig. Bydd y rhaglen hon, ar y cyd â’r rhaglen Gwasanaethau Digidol i’r Cyhoedd a Chleifion, yn datblygu nodweddion o fewn ap GIG Cymru er mwyn caniatáu i gleifion archebu presgripsiynau rheolaidd yn electronig, cofnodi pryd y maent wedi cymryd eu meddyginiaeth, ac o bosib cael gwybodaeth i’w cyfarwyddo ar ddefnyddio eu meddyginiaeth. Rydym yn gwybod nad yw pawb yn gallu defnyddio gwasanaethau ar-lein, a bod rhai pobl nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, felly mae sicrhau bod yr ateb yn gynhwysol yn un o flaenoriaethau allweddol y rhaglen. Ni fydd yr ap yn disodli unrhyw ddulliau presennol a ddefnyddir i gael mynediad at wybodaeth neu wasanaethau. Yn hytrach bydd yn eu hategu, a byddwn yn cynllunio ein gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion y claf er mwyn sicrhau hynny.

Hefyd, bydd y rhaglen, ar y cyd â’r rhaglen Adnoddau Data Cenedlaethol, yn gweithredu ystorfa data meddyginiaethau ganolog. Bydd hyn yn cadw cofnodion o’r presgripsiynau electronig a ddarperir mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd, waeth lle yng Nghymru y mae’r presgripsiwn yn cael ei roi. Bydd yr ystorfa yn golygu bod data ar gael i glinigwyr ledled Cymru, pryd bynnag y bo angen y data hynny. Er enghraifft, pe bai claf yn cael ei dderbyn i ysbyty gwahanol i’r un y byddai’n mynd iddo fel arfer, byddai’r staff yn gallu cael mynediad uniongyrchol at gofnodion meddyginiaethau’r claf er mwyn gweld beth sydd wedi cael ei ragnodi iddo eisoes. Bydd hyn yn sicrhau y gallant osgoi rhagnodi meddyginiaeth nad yw’n addas ei defnyddio gydag un y mae’r claf yn ei chymryd eisoes, rhag ofn y bydd adwaith niweidiol. Drwy ddefnyddio rheolaethau llym iawn, bydd mynediad at y data hyn yn cael ei gyfyngu i’r rheini y mae angen iddynt eu gweld. Bydd yr ystorfa yn caniatáu i rannau eraill o GIG Cymru ddefnyddio data dienw i adolygu ble mae meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi a pha faint a ragnodir, er mwyn caniatáu i’r cyflenwad gael ei reoli mewn modd rhagweithiol, gan ddarparu sicrwydd ariannol.

Iechyd a Gofal Digidol Cymru fydd yn arwain y rhaglen, gyda chymorth Cydweithfa’r GIG a thimau ym mhob ymddiriedolaeth a bwrdd iechyd. Bydd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn darparu cyngor i helpu’r rhaglen i symud yn ei blaen yn unol â’r safonau ar gyfer gwasanaethau digidol, gan ddefnyddio dulliau gweithredu addas sydd wedi cael eu cynllunio’n seiliedig ar anghenion y defnyddiwr.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r rhanddeiliaid hynny o bob rhan o sector iechyd Cymru sydd wedi ymgysylltu â’m swyddogion a gwneud cyfraniad defnyddiol i’r adolygiad annibynnol. Er mwyn sicrhau bod defnyddwyr ac ymarferwyr yn ganolog i’n dull gweithredu, bydd swyddogion a thîm y Rhaglen yn parhau i ymgysylltu â’r grwpiau hyn wrth symud ymlaen at sefydlu a gweithredu’r Rhaglen.

Y bwriad yw penodi aelodau cyntaf y tîm ym mis Medi er mwyn caniatáu i’r rhaglen ddechrau, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd bob hyn a hyn wrth i’r rhaglen fynd rhagddi.