Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Ym mis Mai, adroddais ar gynnydd gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Cyfarfu'r Prif Weinidog, arweinydd Plaid Cymru a minnau â'r Cyd-gadeiryddion y mis hwn am ddiweddariad rheolaidd ar y gwaith sy’n parhau.
Mae’r adroddiad cynnydd diweddaraf oddi wrth y Cyd-gadeiryddion i’w weld yma: Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad cynnydd – Gorffennaf 2023.
Cawsom ein calonogi'n arbennig o glywed am y ffordd y mae’r Comisiwn wedi ymgysylltu â'r cyhoedd ac am eu hymdrechion i sicrhau y bydd yr amrediad llawn o safbwyntiau ar draws y ddadl ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn cael ei ystyried wrth lunio’r adroddiad terfynol.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd yr aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.