Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y llynedd, sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Gofynnwyd i'r Comisiwn lunio adroddiad interim erbyn diwedd y flwyddyn hon. Rwy'n falch o roi gwybod i'r aelodau bod y Comisiwn wedi cyhoeddi adroddiad y gellir ei ddarllen yma https://llyw.cymru/comisiwn-annibynnol-ar-ddyfodol-cyfansoddiadol-cymru-adroddiad-interim. Byddwn yn awr yn ystyried yr adroddiad yn ofalus ac rwy’n annog y sawl sydd â diddordeb yn ein cyfansoddiad i wneud yr un fath. Hoffwn ddiolch i'r Cydgadeiryddion ac i aelodau'r Comisiwn am eu gwaith hyd yma. Rydym yn cynnig trefnu datganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn yn y flwyddyn newydd er mwyn i’r aelodau allu trafod yr adroddiad.