Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Mae datblygu Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru yn ymrwymiad allweddol yn ein Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2021–26 ac yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r aelodau ynghylch y camau nesaf o’i datblygu.
Rwy’n ddiolchgar am y gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn, drwy’r cydweithio rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Gwnaed cynnydd da o ran digideiddio gwaith celfyddyd o’r casgliad cenedlaethol – erbyn diwedd mis Mehefin 2022, roedd ffotograffau wedi cael eu tynnu o 6,210 o ddarnau o waith celfyddyd, ac roedd 8,095 o asedau digidol, gan gynnwys delweddau tu chwith (verso). Mae’r gwaith o ddatblygu’r oriel rithwir yn cyflymu hefyd, ac mae rhan gyntaf y broses yn canolbwyntio ar wefannau symudol a gwefannau pen bwrdd.
Gan adeiladu ar y gwaith cychwynnol a wnaed gan Event ac yna’r Swyddfa Wledig ar gyfer Pensaernïaeth (ROA), mae model gwasgaredig ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol yn cael ei ddatblygu fel cam cyntaf allweddol, yn cynnwys nifer o leoliadau ledled Cymru. Bydd y model daearyddol wasgaredig hwn yn sicrhau bod celf gyfoes yn fwy hygyrch i gymunedau ledled Cymru, gan ddod â chelf yn agosach i bobl ym mhob rhan o Gymru.
Mae trafodaethau cyfrinachol â lleoliadau yn parhau er mwyn pennu amserlenni, a nodi pa mor barod ydynt ar gyfer cymryd rhan yn y model gwasgaredig a lefel yr adnoddau sydd eu hangen arnynt. Mae hyd at 10 lleoliad yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Caiff dull fesul cam ei fabwysiadau ar gyfer sefydlu’r rhwydwaith o orielau ar draws Cymru, a chaiff rhagor o gyhoeddiadau eu gwneud ynghylch y cynnydd a wnaed yn ystod yr hydref.
Rydym hefyd yn archwilio’r potensial i gael safle i weithredu fel angorfa a fyddai’n darparu lleoliad pwrpasol a pharhaol, lle mae eitemau o’r casgliad cenedlaethol yn cael eu harddangos ac yn hygyrch drwy gydol y flwyddyn, a lle gellir rhoi sylw i’r gwaith celf gyfoes gorau o Gymru ac yn rhyngwladol, ei greu a chael profiad ohono.
Mae gwaith wedi dechrau i nodi’r safle angor posibl hwn. Fel cam cyntaf, yn unol â’n dull polisi, rydym wedi gwahodd rheolwyr ystadau o’r sector cyhoeddus o bob rhan o Gymru, drwy Fwrdd Ystadau Cymru, i nodi lleoliadau posibl neu dir ar gyfer angorfa. Bydd y cais hwn am ddarpar safleoedd yn cael ei gyhoeddi yn ystod y mis hwn, a gofynnir am ymatebion erbyn 31 Awst. Caiff y safleoedd posibl eu hystyried yn erbyn y meini prawf a bennwyd, a chaiff rhestr fer o safleoedd sy’n cyd-fynd yn agos â’r meini prawf ei llunio er mwyn asesu’r safleoedd hynny ymhellach.
Bydd partneriaid y prosiect yn gwneud cyfres o benodiadau maes o law i hybu’r gwaith hwn. Bydd y cam allweddol o benodi cyfarwyddwr prosiect i arwain ar feddwl yn greadigol, dylunio a datblygu arddangosfeydd, a gweithio gydag orielau partner ar draws y rhwydwaith gwasgaredig, yn flaenoriaeth.
Gweithiodd grŵp llywio’r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i weithio yn ystod y pandemig i ddigideiddio asedau yn y casgliad fel sail ar gyfer cyflawni sawl prosiect digidol i adlonni ac addysgu, neu i gefnogi staff a chleifion y GIG. Cafodd y rhain eu datblygu o dan y faner Celf ar y Cyd, ac maent yn cynnwys y canlynol:
• 100 Celf – platfform digidol rhyngweithiol a oedd i’w weld ar Instagram, gwefan Amgueddfa Cymru a’r AM Platform. Mae’r 100 celf hyn wedi dechrau ar daith genedlaethol o amgylch lleoliadau lleded Cymru.
• Celf mewn Ysbytai, a’i gwnaeth yn bosibl i staff ddewis delweddau ar gyfer ysbytai maes a chanolfannau brechu yn ystod y pandemig.
• Artistiaid yn Ymateb i Nawr – cafodd cyfres fer o gomisiynau creadigol ei chreu ar gyfer celf gyfoes newydd.
• Darparodd y casgliad fel sbardun (Cynfas) gyfle i leisiau amrywiol drafod y casgliad cenedlaethol yn ystod y pandemig, a hynny ar ffurf cylchgrawn.
Byddwn yn ymgysylltu â’r gymuned celfyddydau gweledol yn fwy eang wrth ddatblygu’r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.