Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Wythnos diwethaf, dechreuodd pob bwrdd iechyd yng Nghymru ddarparu brechlynnau i staff cartrefi gofal, pobl dros 80 mlwydd oed a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen sy’n wynebu’r risg fwyaf. Ddiwrnodau yn unig ar ôl i’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) gymeradwyo’r brechlyn COVID-19 cyntaf i’w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig, aeth GIG Cymru ati’n gyflym i symud o’r cam cynllunio i’r cam gweithredu, ac o fewn 48 awr roedd wedi darparu dros 4,000 dos o’r brechlyn. Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, roedd hyn wedi cynyddu i dros 6,000 o bobl a oedd wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn, sy’n dipyn o gamp.
Ein nod yw brechu cynifer o bobl â phosibl, cyn gynted â phosibl, yn ddiogel a heb wastraffu brechlynnau. Fel sydd wedi’i nodi’n eang, rhaid storio’r brechlyn hwn ar dymheredd isel iawn ac mae’n anodd ei ddarparu mewn lleoliadau symudol megis cartrefi gofal. Rydym wedi bod yn ystyried opsiynau addas ar gyfer rhoi’r brechlyn hwn ar waith yn y cam cychwynnol, yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Yn ddiweddar, cadarnhaodd yr MHRA fod sefydlogrwydd y brechlyn yn cael ei gynnal yn ystod uchafswm o ddwy daith, hyd at 6 awr yr un, cyhyd â’i fod yn cael ei ailbecynnu a’i gludo ar dymheredd sy’n cael ei reoli’n llym. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ddod o hyd i ffordd o ddarparu’r brechlyn mewn cartrefi gofal a bod yn hollol hyderus ein bod yn cynnal cywirdeb ac effeithiolrwydd y brechlyn. Mae’r gwaith caled hwn wedi dwyn ffrwyth ac yn ail gam y rhaglen rydym yn bwriadu treialu system i gludo’r brechlyn i’r grŵp agored i niwed hwn.
Bydd y rhan hon o’r rhaglen yn dechrau yn ofalus er mwyn sicrhau y gellir ei wneud yn ddiogel, heb amharu ar effeithiolrwydd y brechlyn. Cyn bo hir felly, bydd cynllun peilot yn dechrau brechu pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, gan ailbecynnu cyflenwadau llai sy’n addas i’w defnyddio mewn cartrefi gofal, o dan amodau llym a osodir gan y rheoleiddiwr. Bydd y cynllun peilot hwn yn dechrau yn y Gogledd, ddydd Mercher (16 Rhagfyr), a bydd dau fwrdd iechyd arall yn dechrau ei dreialu’r wythnos hon. Os bydd y cynlluniau peilot hyn yn llwyddiannus, byddwn yn dechrau darparu’r brechlyn i gartrefi gofal ledled Cymru yn yr wythnosau nesaf, gan ehangu’r rhaglen i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.