Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nodaf y cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth y DU fod cytundeb mewn egwyddor wedi'i wneud ar gytundeb masnach rydd y DU-Awstralia.

Gwerth masnach nwyddau rhwng Awstralia a Chymru yn 2020 oedd £158.6m ac Awstralia yw ein 21ain marchnad allforio fwyaf a’r 45fed marchnad fewnforio fwyaf.  Gallai FTA ddod â manteision posibl i Gymru.

Er ein bod wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU drwy gydol y trafodaethau, ac wedi cael cyfle i fwydo ein barn ar y cyfleoedd a'r risg posibl i Gymru, nid ydym eto wedi gweld union fanylion yr hyn a gaiff ei gynnwys yn y cytundeb. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir drwy gydol y trafodaethau na ddylai unrhyw fargen fasnach roi cynhyrchwyr Cymru dan anfantais na chyfaddawdu'r safonau uchel sydd mor bwysig i ni yng Nghymru. Rydym hefyd wedi mynegi rhai pryderon wrth Lywodraeth y DU, ac yn benodol o ran yr angen i sicrhau y gall ein cynhyrchwyr barhau i gystadlu ac i sicrhau nad ydynt o dan unrhyw anfantais. Bydd fy swyddogion yn gofyn am ragor o wybodaeth am beth yn union sydd wedi’i gytuno o ran y materion hyn.

Rydym hefyd wedi bod yn trafod â rhanddeiliaid yng Nghymru gydol y cyfnod negodi a byddwn yn parhau i ymgysylltu â nhw er mwyn deall beth yw’r effaith bosibl wrth i ni symud ymlaen.