Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn ceisio mynd i'r afael â’r hyn sy’n achosi llygredd dŵr o weithgareddau amaethyddol ledled Cymru. Mae'r mesurau'n helpu i gyflawni amrywiaeth eang o'n rhwymedigaethau rhyngwladol a domestig ac yn cynnal yr enw da y mae ffermio Cymru yn ei fwynhau o ran safonau uchel o ran yr amgylchedd a lles anifeiliaid.
Drwy'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, fe wnaethom ymrwymo i weithio gyda'r gymuned ffermio i ddefnyddio'r rheoliadau i wella ansawdd dŵr ac aer, gan fynd ati i dargedu y gweithgareddau hynny y gwyddom sy’n achosi llygredd.
Heddiw, rwy'n darparu diweddariad ar y pecyn o fesurau y mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cytuno arnynt er mwyn bwrw ymlaen â gweithredu'r ymrwymiad perthnasol yn y Cytundeb Cydweithredu.
Mae'r rheoliadau'n cynnwys gweithredu graddol i alluogi'r sector i drosglwyddo i'r gofynion newydd dros gyfnod o amser, gan gydnabod y byddai angen i rai o fewn y sector weithredu er mwyn cydymffurfio. Cyflwynodd her yr Adolygiad Barnwrol i'r rheoliadau, er iddo gael ei ddiystyru ym mis Ebrill eleni, elfen o ansicrwydd. O ganlyniad, bydd rhai busnesau fferm wedi oedi cyn gwneud penderfyniadau buddsoddi a gwneud y paratoadau angenrheidiol. Mae'r paratoadau hyn bellach hefyd o dan bwysau oherwydd y pwysau cynyddol ar gostau ar hyn o bryd yr ydym oll yn eu gweld ochr yn ochr â chefndir ehangach goblygiadau byd-eang y rhyfel yn Wcráin.
I gydnabod yr amgylchiadau hyn ac, yn benodol, y pryderon ynghylch gweithredu y terfyn nitrogen blynyddol o 170kg/ha fesul daliad erbyn 1 Ionawr 2023, rwy'n cyhoeddi heddiw ein bwriad i ddarparu estyniad byr i weithredu'r mesur hwn hyd at Ebrill 2023. Bydd ymgynghoriad yr hydref hwn yn cyd-fynd â hyn ar gynllun trwyddedu lle gall unrhyw fusnes fferm wneud cais am drwydded ar gyfer terfyn nitrogen blynyddol uwch o 250kg/ha fesul daliad yn amodol ar anghenion cnydau ac ystyriaethau cyfreithiol ehangach. Byddwn yn ymgynghori ar i gynigion ar gyfer cynllun o'r fath fod yn weithredol tan 2025. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol pellach, penodol sy'n ystyried effeithiau economaidd ac amgylcheddol y terfyn nitrogen blynyddol o 170kg/ha fesul daliad a byddwn yn adolygu goblygiadau'r asesiad hwn ar gyfer defnyddio'r rheoliadau yn y dyfodol.
Rydym hefyd yn darparu hyd at £20m o gyllid ychwanegol i gefnogi cydymffurfiaeth â'r rheoliadau. Mae hyn yn ychwanegol at ein pecyn cymorth presennol drwy ein cynlluniau pontio, a'r hyfforddiant, y cyngor a'r cymorth sylweddol sydd ar gael i fusnesau fferm gan Cyswllt Ffermio a'n Gwasanaeth Cyswllt Fferm ein hunain.
Ochr yn ochr â'r gefnogaeth hon, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ganfod y dulliau gorau o fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn. Byddwn hefyd yn cyflymu ein gwaith i annog datrysiadau technolegol amgen posibl, gan ddefnyddio dull Rheoliad 45 i wneud hynny lle bo hynny'n briodol, gan gynnwys archwilio'r potensial ar gyfer trin a phrosesu tail dros ben i'w ddefnyddio mewn ardaloedd o ddiffyg maetholion a'r potensial i dechnoleg leihau'r risg o lygredd a hwyluso'r defnydd mwyaf effeithiol o'r rheoliadau yn y dyfodol.
Mae'r camau newydd hyn yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw o dan y Cytundeb Cydweithredu yn gamau pellach sylweddol tuag at ein nod ar y cyd i leihau llygredd o amaethyddiaeth a'n hymrwymiad parhaus i wneud hynny mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio i sicrhau canlyniadau parhaol.