Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy’n awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am hynt y gwaith o ddatblygu Llwybr Canser Sengl. Mae hwn yn ddull blaengar yn y DU sydd wrth wraidd ein dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gwella canlyniadau canser yng Nghymru. Drwy Rwydwaith Canser Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda thimau canser i weld a oes ffordd well o fesur hyd yr amser y mae pobl yn aros i gael triniaeth ganser. Yn dilyn y gwaith hwn, canfuwyd bod achos cryf iawn dros fesur amseroedd aros am driniaeth ganser mewn modd gwahanol.
Nid yw system sy’n mesur dau amser aros am driniaeth ganser bob amser yn rhoi darlun digon cywir o daith y claf o’r adeg pan geir yr amheuaeth gyntaf bod ganddo ganser. Gwelwyd bod gwahanu pobl drwy eu rhoi ar ddau lwybr amser aros gwahanol – achosion brys pan geir amheuaeth o ganser ac achosion felly nad ydynt yn rhai brys – yn system sydd wedi ei chynllunio’n seiliedig ar y math o leoliad lle y gwelir y claf gyntaf. Nid oedd gan gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) y data na’r adnoddau gwybodaeth o fewn y system honno i gynllunio eu gwasanaethau’n briodol. Hefyd, gwelwyd bod gormod o amrywiadau yn y modd yr oedd llwybrau canser yn gweithredu, a bod hynny’n debygol o gyfrannu at wahaniaethau mewn canlyniadau.
Ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddais y byddai GIG Cymru yn cyflwyno Llwybr Canser Sengl, a fyddai’n dechrau o’r union adeg y ceir amheuaeth o ganser gyntaf. Mae’r mesur amser aros 62-diwrnod newydd hwn yn cynnwys cleifion sydd wedi cael eu cyfeirio ymlaen o ofal sylfaenol a chleifion y canfyddir bod ganddynt ganser wrth iddynt dderbyn gofal mewn ysbyty. Y peth pwysicaf am
y llwybr newydd yw bod y Llwybr Canser Sengl hwn yn dechrau ar yr union adeg pan geir amheuaeth o ganser gyntaf – sef y ‘pwynt amheuaeth’ – waeth ym mha leoliad y mae’r unigolyn yn ymwneud â’r system iechyd. Felly, mae’r Llwybr Canser Sengl yn ffordd lawer cywirach o fesur yr amser y mae cleifion yn aros i gael triniaeth yn ein system iechyd.
Cafwyd cymorth clinigol eang i’r newid hwn yn ogystal â chefnogaeth gan Gynghrair Canser Cymru, sy’n dod ag elusennau canser ynghyd.
Cafodd llawer o waith ei gyflawni ers mis Tachwedd 2018 i benderfynu sut y gellid cofnodi gwybodaeth am y mesur newydd hwn ac i roi ar waith y system adrodd ar ei gyfer. Fis Awst 2019, cafodd y ffigurau cyntaf eu cyhoeddi ac roedd y rhain yn rhoi gwell ddealltwriaeth inni o’r amser go iawn y mae’n ei gymryd i gleifion gael diagnosis a thriniaeth, ac felly sut y mae’r mesur hwn yn ei gwneud yn haws i’r system ymateb a gwella. Nid yw hyn yn helpu neb i guddio perfformiad – yn wir, mae’n fesur mwy heriol. Er mwyn sicrhau bod tryloywder llawn, mae GIG Cymru wedi parhau i gofnodi’r amseroedd aros gwreiddiol ar gyfer cael triniaeth ganser. Mae’n glir o’r metrigau hynny sut mae’r un daith gan y claf yn edrych ar y ddau lwybr gwreiddiol o’u cymharu â’r Llwybr Canser Sengl newydd. Mae’r gwahaniaeth yn y ffigurau’n darparu’r dystiolaeth bellach y mae ei hangen i gefnogi’r ddadl dros fabwysiadu Llwybr Canser Sengl. Bellach, gallwn weld yn fwy eglur nag erioed o’r blaen faint o amser y mae’n ei gymryd i achos lle y ceir amheuaeth o ganser gael ei gyfeirio at ddibenion ymchwilio, ac i’r driniaeth ddechrau.
Wrth inni yn awr ailddechrau cyhoeddi ystadegau swyddogol, rwyf wedi penderfynu, o fis Chwefror 2021 ymlaen, mai dim ond yn erbyn y Llwybr Canser Sengl y byddwn yn adrodd ac ni fyddwn yn adrodd y mesurau blaenorol mwyach. Wedi inni wrando ar glinigwyr, rwyf wedi penderfynu hefyd na fydd y Llwybr Canser Sengl yn cynnwys unrhyw addasiadau – byddwn yn adrodd ar yr amser aros gwirioneddol. Ar hyn o bryd, gellir addasu llwybrau pan fydd claf yn mynd ar ei wyliau, pan na all fynd i’w apwyntiadau neu os oes arno angen driniaethau sefydlogi. Bydd y ffactorau hyn yn cael eu cynnwys wrth adrodd yn awr felly bydd yr amseroedd aros yn adlewyrchu’r amser gwirioneddol a brofodd y claf.
Gan gadw hyn mewn cof, 75% fydd ein targed mesur perfformiad cychwynnol tan fis Mawrth 2022. Rwy’n disgwyl i’r targed hwn gael ei adolygu tuag at i fyny mewn blynyddoedd sydd i ddod.
Y Llwybr Canser Sengl yw’r llwybr cyntaf o’i fath yn y DU ar gyfer mesur amseroedd aros am driniaeth ganser, ond yn bwysicach na hynny, mae’n darparu platfform uchelgeisiol o ran trawsnewid gofal canser. Mae’r adnoddau gwybodaeth fusnes newydd, sy’n cefnogi’r Llwybr Canser Sengl, hefyd yn galluogi GIG Cymru i olrhain a rheoli pobl y mae amheuaeth bod ganddynt ganser, a hynny mewn modd llawer mwy manwl. Bydd hyn yn caniatáu i’r GIG sicrhau bod ei wasanaethau’n fwy ymatebol i anghenion y claf, a’i fod yn darparu gofal mewn modd mwy amserol. Mae cael gwared ar amrywiadau yn y gofal clinigol a ddarperir yn ganolog i’n dull gweithredu ar gyfer sicrhau ansawdd a chysondeb wrth wella canlyniadau clinigol. Er mwyn cefnogi’r Llwybr Canser Sengl, mae ein cymuned glinigol wedi dod ynghyd i gytuno ar y llwybrau cenedlaethol mwyaf effeithiol ar gyfer trin tiwmorau sy’n datblygu mewn gwahanol rannau o’r corff. Mae hynny’n golygu bod clinigwyr arbenigol wedi pennu’r hyn a ddylai gael ei ddarparu wrth drin canser y fron, canser y coluddyn, neu ganser yr ysgyfaint – waeth lle yng Nghymru y mae’r claf wedi cael diagnosis.
Mae’r llwybrau hyn, y credir eu bod y rhai mwyaf effeithlon posibl, wedi cael eu datblygu ar ôl cyrraedd consensws, a byddant yn caniatáu i wasanaethau ymuno’n raddol â ffordd fwy safonol o ddarparu gofal. Mae’r llwybrau hyn yn llwybrau darparu gofal ac iddynt amser penodedig uchelgeisiol iawn, a byddant yn cymryd amser i ymwreiddio. Byddwn yn defnyddio ein rhaglen adolygu gan gymheiriaid mewn perthynas â thriniaethau canser er mwyn gweld sut y maent yn cael eu gweithredu. Er mwyn cefnogi ymddiriedolaethau a byrddau iechyd wrth iddynt weithredu’r dull newydd hwn o wella gofal a chanlyniadau, rwyf hefyd wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o £3m y flwyddyn am bum mlynedd. Bydd y buddsoddiad £15m hwn yn helpu i roi’r llwybrau tra effeithlon hyn ar waith. Mae rhan fwyaf y buddsoddiad hwn yn canolbwyntio ar newid elfen ddiagnostig y llwybr – gan gyflymu’r broses o roi diagnosis drwy wneud mwy o ddefnydd o lwybrau sy’n symud yn syth at brofion, neu drwy ymgorffori proses o gyfeirio ymlaen ar unwaith.
Mae hwn yn blatfform pwysig i wasanaethau canser yng Nghymru adeiladu arno, er bod angen inni gydnabod maint y galw y mae GIG Cymru yn ei wynebu. Yn ystod y flwyddyn galendr ddiwethaf, roedd dros 120,000 o gyfeiriadau trywydd brys, sef cynnydd o fwy na 50,000 ar gyfer yr un cyfnod pum mlynedd yn ôl. Mae angen ymchwilio’n drwyadl i’r holl achosion hyn, er mwyn dod o hyd i’r 6-7% o gleifion y mae ganddynt ganser. At ei gilydd, mae oddeutu 19,000 o bobl y flwyddyn yn cael diagnosis newydd, sy’n golygu bod angen iddynt gael gofal cymhleth, arbenigol, a sensitif. Rwy’n gwybod pa mor galed y mae ein staff yn gweithio i fodloni’r galw hwnnw.
Er bod y cyfraddau goroesi wedi gwella cyn COVID-19, bydd y pandemig wedi cael effaith niweidiol ar ganlyniadau. Mae’n atgyfnerthu’r ffaith bod angen diwygio a gwella gwasanaethau ar draws GIG Cymru gan gynnwys gwasanaethau canser. Bydd y Llwybr Canser Sengl yn ein galluogi i fynd i’r afael ag amrywiadau, a gwella canlyniadau a phrofiad y claf.